Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Fro Ffestiniog...
Sesiwn Nofio 60+
Pam Nofio?
Mae llawer o fanteision yn perthyn i nofio, ac yn eu plith mae:
Gwella eich ffitrwydd:
Mae nofio’n siapio’r corff cyfan tra hefyd yn gwella ei nodweddion cardiofasgiwlar, cryfder y cyhyrau, dygnedd, ystum a’r cyhyrau i gyd ar yr un pryd. Gall ymarfer sy’n cynnwys nofio helpu i leihau pwysedd gwaed, sy’n lleihau’r risg o afiechyd y galon a strôc.
Llai o risg o anafiadau o weithgareddau nofio:
Ceir risg is o anafiadau wrth i chi nofio oherwydd does dim pwysau ar eich esgyrn, eich cymalau na’r meinwe cysylltiol gan eich bod yn arnofio. Os ydych yn chwilio am ymarfer dyddiol diogel, mae nofio’n ddelfrydol oherwydd gallwch ymarfer yn ddwys gyda llai o siawns o gael anafiadau.
Helpu i golli pwysau:
Os ydych eisiau colli pwysau, mae nofio’n ddelfrydol. Ar gyfartaledd, gall nofiwr losgi cymaint o galorïau mewn awr â rhedwr sy’n rhedeg ar gyfradd o chwe milltir yr awr.
Cwrdd â phobl newydd:
Boed yn cymryd rhan mewn sesiwn nofio neu mewn gweithgaredd, mae’r pwll yn lle gwych i gwrdd â phobl newydd neu fynd â’ch ffrindiau gyda chi i gael dipyn o hwyl!
Lleddfu straen:
Mae nofio’n eithriadol ymlaciol am ei fod yn caniatáu i fwy o ocsigen lifo i’ch cyhyrau ac mae’n eich gorfodi i reoli eich anadl. Mae hefyd yn ffordd wych o leddfu straen.