Telerau ac Amodau

Y Telerau ac Amodau Hurio a Defnyddio cyfredol ar gyfer Byw'n Iach.

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau Hurio a Defnyddio Canolfannau Hamdden 

Telerau a Pholisïau 

Mae’r telerau a pholisïau a ganlyn yn berthnasol i bob Canolfan Hamdden Byw’n Iach: 

Defnyddio’r Cyfleusterau ac Amodau Hurio 

Mae Canolfannau Hamdden a chyfleusterau Byw’n Iach Cyf ar gael i’w hurio ar ddisgresiwn Rheolwr y Ganolfan yn unol â’r telerau ac amodau a ganlyn. 

Diffiniadau

Diffiniadau

Cyfeiria “Huriwr” at unrhyw glwb neu gymdeithas, tîm, sefydliad neu grŵp, ysgol, unigolyn, clwb chwaraeon cydnabyddedig neu gymdeithas anghorfforedig (“yr Huriwr”) sy’n hurio Eiddo neu gyfleusterau hamdden gan Byw’n Iach Cyf. 

Cyfeiria  “Rheolwr y Ganolfan at y Rheolwr Ardal neu unrhyw berson arall sy’n cael ei awdurdodi ganddo. 

Cyfeiria  “Eiddo at unrhyw un o’r Canolfannau Hamdden a restrir isod, neu unrhyw ran ohonynt. 

Cyfeiria  “Canolfan Hamddenat ganolfannau: Byw’n Iach Arfon / Canolfan Tennis, Caernarfon; Byw’n Iach Bangor; Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn; Byw’n Iach Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog; Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli; Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog; Byw’n Iach Penllyn, y Bala; Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda; Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes; Byw’n Iach Y Pafiliwn, Abermaw; Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau; cae chwaraeon Deiniolen, cae chwaraeon Ffordd y Traeth Bangor a chae chwaraeon Brynrefail.  

Cyfeiria  “Aelod at berson sy’n dal Cerdyn Hamdden Byw’n Iach sy’n gyfredol ac yn weithredol.  

Cyfeiria  “Nad yw’n aelod at berson gaiff ddefnyddio’r cyfleusterau ond nad yw’n dal Cerdyn Hamdden Byw’n Iach. 

Cyfeiria  “Archeb Bloc at hurio’r Eiddo am gyfnod o 10 i 16 wythnos.  

Cyfeiria “Digwyddiad Arbennig at ddigwyddiad neu gyfarfod unwaith ac am byth a gynhelir yn y Ganolfan Hamdden ar gyfer aelodau’r cyhoedd neu grwpiau preifat.

Trefniadau Hurio

Trefniadau Hurio

Amodau Archebu 

2.1    Gall aelodau hurio cyfleusterau’r Ganolfan Hamdden hyd at 10 diwrnod ymlaen   llaw wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.  Ni chaiff bobl nad ydynt yn aelodau ond hurio wyneb yn wyneb neu ar y ffôn gan dalu’r ffi briodol.  

2.2    Gellir hurio’r eiddo ar gyfer digwyddiadau arbennig hyd at 12 mis ymlaen llaw yn ysgrifenedig. Cytunir ar ffioedd ar gyfer digwyddiadau arbennig gyda Rheolwr y Ganolfan cyn cadarnhau’r archeb.  

2.3    Bydd yr Huriwr yn llofnodi’r Ffurflen Gais Archebu cyn dechrau hurio’r eiddo i gadarnhau ei fod yn ymwybodol o’r telerau ac amodau hurio ac yn eu deall. 

2.4    Pan fo archeb ar gyfer grŵp sy’n gymysg o oedolion a phlant, codir ffi am y gweithgaredd ar y raddfa briodol i oedolion. 

2.5    Bydd pob Archeb Bloc neu Ddigwyddiad Arbennig yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig gan Reolwr y Ganolfan, neu gan rywun yn gweithredu ar ei ran. 

2.6    Bydd yr Huriwr yn glynu at amseroedd a hyd yr archeb i sicrhau na fydd defnyddwyr dilynol yn cael eu hamddifadu o unrhyw amser sydd wedi’i ddyrannu iddynt.  Bydd unrhyw gyfarpar yn cael ei osod / ei dynnu i lawr yn ystod cyfnod yr archeb.  Ni ellir newid yr amseroedd heb gael caniatâd ymlaen llaw gan Reolwr y Ganolfan.  

2.7    Ni fydd unrhyw drefn hurio: 

2.7.1       Am gyfnod o 7 diwrnod neu fwy mewn unrhyw gyfnod o chwe mis. 

2.7.2       Yn hwy na chyfanswm o 24 awr mewn unrhyw wythnos. 

2.7.3       Yn rhoi defnydd neilltuol i’r Huriwr o unrhyw ran o’r Eiddo. 

 

2.8    Ni fydd yr Huriwr yn defnyddio’r Eiddo nac yn caniatáu defnyddio’r Eiddo ar gyfer unrhyw ddiben oni bai am ddiben hurio’r eiddo yn y lle cyntaf. Bydd yr Huriwr yn gyfrifol am ymddygiad y bobl sy’n mynychu ei ddigwyddiad. 

2.9    Bydd yr Huriwr yn gofalu am yr Eiddo ac ni fydd yn peri nac yn caniatáu i unrhyw ddifrod gael ei wneud ar yr Eiddo neu unrhyw ran o’r Eiddo neu’r gosodiadau a’r cyfarpar ar yr Eiddo nac i unrhyw ran o’r adeilad a bydd Byw’n Iach Cyf yn cywiro unrhyw ddifrod a achosir neu a ganiateir gan yr huriwr neu unrhyw berson sy’n mynychu’r Eiddo yn sgil y trefniant hurio hwnnw a hynny ar gost yr Huriwr a bydd yr Huriwr yn rhoi gwybod i Reolwr y Ganolfan am unrhyw ddifrod o’r fath mor fuan â phosib. Bydd cost difrod o’r fath yn cael ei hardystio gan Reolwr y Ganolfan, a’i benderfyniad ef yw’r un terfynol. 

 

2.10  Yn ystod y cyfnod Hurio, bydd yr Huriwr yn gyfrifol am:- 

  • Oruchwylio’r gweithgareddau gan gynnwys sicrhau bod pobl yn dod i mewn i’r Eiddo’n ddiogel ac yn drefnus ac yn gadael yr eiddo yn yr un modd a chynorthwyo rheolwr y Ganolfan i glirio’r Eiddo’n ddiogel mewn argyfwng; 
  • Cadw’r Eiddo’n ddiogel a sicrhau y cedwir trefn dda a bod pawb yn ymddwyn yn weddus; 
  • Sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r Eiddo sydd wedi’i hurio yn gadael yr adeilad erbyn yr amser y daw’r trefniant hurio i ben;  
  • Sicrhau na fydd unrhyw ddodrefn, gosodiadau na chyfarpar yn cael eu tynnu o’r Eiddo. 
  • Sicrhau na fydd unrhyw berson yn dod ag arfau, ffrwydron, deunydd fflamadwy nac unrhyw fflam agored i’r Eiddo. 
  • Sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r Eiddo sydd wedi’i hurio yn cadw at unrhyw reoliadau o ran trefniadau’r maes parcio yn ardal yr Eiddo er mwyn amharu cyn lleied â phosib. 

Amodau Archeb Bloc

Amodau Archeb Bloc 

2.11  Gellir gwneud Archebion Bloc hyd at 12 mis ymlaen llaw ac mae’r rhain wedi’u cyfyngu i glybiau, timau, sefydliadau, ysgolion, clybiau chwaraeon cydnabyddedig a chymdeithasau neu unigolion, ar yr un amser bob wythnos, am o leiaf 10 wythnos a ddim mwy na 16 wythnos, yn unol â phenderfyniad Rheolwr y Ganolfan.  

2.12  Ar ddiwedd y slot 10 i 16 wythnos, os na fydd cais arall wedi’i dderbyn am archeb bloc yn yr un eiddo a chyfleusterau, ni fydd unrhyw wrthwynebiad i’r clwb, tîm, sefydliad, ysgol, clwb chwaraeon cydnabyddedig, gymdeithas neu unigolyn barhau am gyfnod pellach o archeb bloc 10-16 wythnos cyn belled y llenwir ffurflen archeb bloc 2 wythnos cyn diwedd y cyfnod archeb gwreiddiol a’i dychwelyd i Reolwr y Ganolfan.   

2.13     Dim ond i rai sydd wedi prynu Aelodaeth Canolfan Hamdden ddilys fydd archebion bloc yn cael eu dyrannu. Ni chaiff aelodau sy’n elwa o ddefnyddio’r cyfleusterau am ddim, oherwydd pecyn aelodaeth, archebu cyfleusterau mewn bloc am ddim.   

2.14     Ni fydd yr Eiddo na’r/neu’r cyfleusterau hyn yn cael eu hurio heb dderbyn ffurflen archeb swyddogol wedi’i llofnodi gan yr Huriwr. 

Talu

Talu

3.1       Mae’r holl ffioedd yn unol â pholisi ffioedd a thaliadau cyfredol Byw’n Iach Cyf.  

3.2       Gwneir taliadau o fewn 30 diwrnod o dderbyn anfoneb swyddogol gan Byw’n Iach Cyf.   Bydd methu â chydymffurfio â’r telerau hyn yn annilysu’r archeb ac fe all Rheolwr y Ganolfan derfynu’r cytundeb hurio a bydd Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i beidio â derbyn unrhyw archebion yn y dyfodol. 

3.3       Ni roddir caniatâd i drefniant hurio sy’n niweidio neu all niweidio hawl Byw’n Iach Cyf i dderbyn rhyddhad Ardreth Annomestig neu Genedlaethol ar sail hanfodol neu ddewisol. 

3.4       Bydd yr Eiddo’n cael ei wresogi a’i oleuo yn ôl yr arfer am gyfnod y trefniant hurio, ond ni fydd Byw’n Iach Cyf yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg neu fethiant neu ddifrod neu golled yn sgil hyn. 

Canslo a Therfynu

Canslo a Therfynu

Yr Huriwr / Defnyddiwr yn Canslo 

4.1       Byddwn yn codi’r ffi hurio gyfan pan fo’r trefniant yn cael ei ganslo heb roi gwybod yn ysgrifenedig nac ar y ffôn gydag o leiaf 24 awr o rybudd cyn i’r archeb gychwyn.  Mae Archebion Bloc angen rhybudd ysgrifenedig o 48 awr ac mae angen 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig ar gyfer Digwyddiadau Arbennig.   

4.2 Ni chynhigir unrhyw ad-daliadau ar gyfer Tocynnau Misol neu Flynyddol hollgynhwysol na chardiau Aelodaeth Blynyddol Byw’n Iach. Gall pob Tocyn Blynyddol cynhwysol gael ei oedi am hyd at 12 mis, os na all cwsmer fod yn bresennol oherwydd cyflwr meddygol. Bydd angen tystiolaeth i gefnogi cais i oedi aelodaeth. 

4.3 Mae cwsmeriaid sy’n cofrestru ar bob pecyn debyd uniongyrchol wedi ymrwymo i’r cynllun am gyfnod cychwynnol o 6 mis. Ar ôl y cyfnod cychwynnol hwn, gall cwsmeriaid ganslo ar unrhyw adeg drwy roi 1 mis o rybudd ysgrifenedig. Bydd cwsmeriaid sy’n canslo o fewn y 6 mis cyntaf yn cael eu bilio am y taliadau sy’n weddill. Gall pecynnau Debyd Uniongyrchol gael eu rhewi  hyd at 12 mis, os na all cwsmer fod yn bresennol oherwydd cyflwr meddygol. Bydd angen tystiolaeth i gefnogi cais i oedi aelodaeth. 

4.4       Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i dynnu defnydd y cyfleuster yn ôl ar unrhyw adeg os yw o’r farn nad yw’n addas ar gyfer y defnydd hwnnw.  Bydd y ffi hurio yn cael ei had-dalu neu byddwn yn cynnig dyddiadau eraill i’r Huriwr. Ni fydd Byw’n Iach Cyf yn atebol am unrhyw wariant arall neu golled a gyfyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan yr Huriwr yn sgil canslo’r trefniant. 

4.5       Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i ganslo neu gau’r Eiddo ar gyfer digwyddiadau arbennig ac yn sgil amgylchiadau eraill sydd y tu hwnt i’w reolaeth.   

4.6       Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i addasu’r ardaloedd gweithgaredd a’r amseroedd a ddyrannwyd i’r Huriwr i sicrhau bod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau.   

4.7       Bydd gan Byw’n Iach Cyf yr hawl i derfynu hurio’r Eiddo i Huriwr drwy roi o leiaf 7 diwrnod o rybudd yn ysgrifenedig neu gall roi gwybod ar unwaith os yw’r telerau a’r amodau hyn wedi cael eu torri).   

Cyfrifoldebau'r Huriwr

Cyfrifoldebau’r Huriwr

5.1       Bydd y sawl sy’n hurio ar ran y clybiau, timau, sefydliadau, ysgolion, clybiau chwaraeon cydnabyddedig a chymdeithasau yn sicrhau bod unigolion sy’n cynorthwyo, cymorthyddion, hyfforddwyr neu wirfoddolwyr wedi cael eu gwirio’n llawn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os yw’r archeb yn cynnwys plant neu oedolion bregus a bod y bobl hynny’n debygol o fod mewn cyswllt uniongyrchol â’r plant/oedolion bregus. 

5.2      Rhaid i’r Huriwr fod yn gyfrifol am ddarparu ei offer ei hun oni bai ei fod wedi gwneud trefniadau cyn yr archeb i hurio cyfarpar y ganolfan hamdden.  

5.3      Rhaid i unrhyw hyfforddiant a gynhelir ar eiddo’r Byw’n Iach Cyf gael ei gynnal gan hyfforddwr cymwys a gellir gofyn am brawf o’u cymhwyster. Os yw’n berthnasol, efallai y bydd angen i’r Huriwr gael trwydded adloniant. 

5.4      Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i ofyn am asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredol gan yr Huriwr ar gyfer y gweithgareddau a gynhelir ar yr Eiddo. Wrth hurio cyfleusterau oddi ar y safle, mae’r Huriwr yn gyfrifol am benderfynu p’un a yw’r cae yn ddiogel i chwarae arno cyn dechrau ei ddefnyddio.   

Indemniadau ac Yswiriant

Indemniadau ac Yswiriant 

6.1      Nid yw Byw’n Iach Cyf yn derbyn cyfrifoldeb am golled, difrod neu anaf i’r Huriwr neu unrhyw berson yn yr Eiddo yn sgil y trefniant Hurio.  Bydd yr Huriwr yn defnyddio’r Eiddo neu unrhyw ran ohono ar ei risg ei hun ac ni fydd Byw’n Iach Cyf yn atebol am unrhyw hawliad, gorchymyn, gweithrediad, camau gweithredu, iawndal, costau (yn cynnwys costau cyfreithiol), treuliau nac unrhyw ddyledion eraill sy’n codi o hawliadau gan yr Huriwr neu a wneir yn erbyn yr Huriwr gan drydydd parti.   

6.2      Bydd yr Huriwr yn indemnio Byw’n Iach Cyf rhag pob hawliad ac yn erbyn pob hawliad, gorchymyn, gweithrediad, camau gweithredu, iawndal, costau (yn cynnwys costau cyfreithiol), treuliau ac unrhyw ddyledion eraill a wneir yn erbyn Byw’n Iach Cyf ac sy’n codi’n uniongyrchol neu’n ddamweiniol o drefniant hurio’r eiddo, y cyfleusterau neu’r cyfarpar yn yr Eiddo neu gan yr Eiddo o ran unrhyw farwolaeth neu anaf personol, neu golled, dinistr neu ddifrod arall, yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig iddynt) y colledion ariannol a achoswyd, sydd un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, wrth dorri’r telerau ac amodau hyn neu dorri dyletswydd yr Huriwr neu unrhyw berson sy’n mynychu’r Eiddo oherwydd ei drefniant hurio ef (un ai drwy esgeulustod, camwedd, statud neu fel arall). 

6.3      Os yw’r Huriwr yn glwb, yn gymdeithas, yn elusen, yn grwp sefydledig neu’n gymdeithas anghorfforedig (neu fel arall os gwneir cais gan Reolwr y Ganolfan) rhaid iddo gael polisi neu bolisïau yswiriant i gynnwys atebolrwydd cyhoeddus a/neu atebolrwydd cyflogwr pan fo hynny’n briodol i’r gweithgareddau arfaethedig yn yr Eiddo, a bydd y swm dan y polisi/au yswiriant hyn yn o leiaf £5,000,000 ym mhob achos.  Bydd yr Huriwr yn darparu copi o’r polisi neu’r polisïau yswiriant i Byw’n Iach Cyf yn ôl y gofyn. 

Iechyd a Diogelwch

Iechyd a Diogelwch

7.1      Bydd yr Huriwr yn sicrhau bod yr Eiddo’n cael ei adael yn lân ac yn daclus ac y rhoddir unrhyw ysbwriel yn y biniau a ddarperir.  Caiff y cyfleusterau eu gwirio’n rheolaidd gan staff y Ganolfan Hamdden.  Mae gofyn i’r Huriwr wirio’r Eiddo cyn ei ddefnyddio. 

7.2      Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gydymffurfio â rheolau a rheoliadau cyffredinol yr Eiddo sy’n cael ei ddefnyddio. Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i derfynu unrhyw weithgaredd a ystyrir yn beryglus gan staff neu os yw’r Huriwr yn torri unrhyw reoliadau iechyd a diogelwch.   

7.3      Rhaid cadw’r holl allanfeydd, cynteddau, coridorau, llwybrau allanol a blaen gyrtiau yn glir ac yn rhydd o rwystrau bob amser.   

7.4      Ni fydd nifer y bobl sydd i’w gadael i mewn i unrhyw safle ardal yn fwy na chapasiti’r eiddo.  

7.5       Rhaid i’r Huriwr gyflwyno tystysgrif profi diogelwch ar gyfer unrhyw gyfarpar          trydanol cludadwy a ddefnyddir yn yr Eiddo.   

7.6        Ni fydd unrhyw alcohol yn cael ei yfed, ei werthu na’i ddosbarthu yn yr Eiddo.   

7.7        Ni chaniateir ysmygu ar yr Eiddo.  

7.8        Rhaid i holl ddefnyddwyr y cyfleusterau ffitrwydd un ai gwblhau’r sesiwn sy’n   

 rhoi cyflwyniad i’r Ystafell Ffitrwydd neu lofnodi ffurflen ymwadiad cyn dechrau  

 defnyddio’r cyfleusterau. 

Mynediad

Mynediad

8.1       Mae Byw’n Iach Cyf yn cadw’r hawl a’r disgresiwn i wrthod mynediad i berson, neu i ofyn i rywun adael yr Eiddo am resymau iechyd a diogelwch neu os yw unrhyw berson yn ymddangos wedi meddwi, yn afreolus, yn ymosodol neu wedi gwisgo’n amhriodol neu am unrhyw reswm arall a benderfynir gan Reolwr y Ganolfan wrth weithredu’n gyfrifol. 

8.2      Ni chaniateir mynediad i unrhyw blentyn dan 8 mlwydd oed i bwll nofio oni bai eu bod gyda rhiant cyfrifol (h.y. person sy’n 16 mlwydd oed a hŷn ac sydd ym marn resymol Rheolwr y Ganolfan yn gymwys i orchwylio’r plentyn) a phan fo mwy nag un plentyn iau nag 8 mlwydd oed bydd y nifer uchaf o blant i bob oedolyn cyfrifol yn cael ei gyfyngu i ddau. Bydd plant o dan 8oed wedi cyfyngu i ardaloedd penodol o’r pwll a gall yr ardaloedd amrywio o safle i safle. Bydd arwyddion yn amlygu’r ardaloedd perthnasol i gwsmeriaid.  

8.3       Caniateir i blant dan 8 oed newid mewn ystafelloedd newid y rhyw arall os nad  oes oedolyn cyfrifol o’r un rhyw i oruchwylio’r plentyn. 

8.4 Ni chaiff unrhyw grwp neu fudiad ddefnyddio ein cyfleusterau :- 

  1. a) os ydynt wedi ei gwahardd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi;
  2. b) os ydynt yn mynegi neu hyrwyddo terfysgaeth, daliadau crefyddol ideolegol 

neu wleidyddol eithafol; neu  

  1. c) os yw eu daliadau / safbwyntiau, polisiau neu amcanion yn anghyfreithlon.

Bydd Byw’n Iach yn cadw’r hawl i atal neu wahardd defnydd neu fynegiant or fath ar unrhyw adeg. 

Cardiau Byw’n Iach

Cardiau Byw’n Iach

9.1       Rhaid cyflwyno cardiau aelodaeth wrth fynychu a /neu dalu am ddefnyddio’r Ganolfan Hamdden neu ei chyfleusterau neu fel arall bydd yn rhaid talu’r cyfraddau a/neu’r ffioedd arferol. 

9.2       Bydd yr Aelod yn talu am gerdyn newydd os caiff ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi. 

Cyfleoedd Cyfartal

Cyfleoedd Cyfartal

10.1    Mae gan Byw’n Iach Cyf bolisi cyfleoedd cyfartal ar gyfer pawb ac ni wahaniaethir yn erbyn Hurwyr am eu hil, rhyw, anabledd, iaith, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, credoau, oedran neu unrhyw amgylchiadau eraill. 

10.2    Gall defnyddwyr anabl fod yn gymwys i gael cyfraddau rhatach os gallent gyflwyno tystiolaeth o’r hyn a ganlyn:- 

  • Lwfans Byw i’r Anabl 
  • Lwfans Gweini 
  • Credyd Treth Pobl Anabl 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chefnogi / Budd-dal Analluedd  
  • Bathodyn Glas  

10.3     Caniateir mynediad am ddim i ofalwyr pan fônt yn mynychu i gynorthwyo a chefnogi defnyddiwr anabl oni bai eu bod yn yr ystafell ffitrwydd lle mae’n rhaid iddynt gwblhau a thalu am y sesiwn gyflwyno yn y lle cyntaf. 

Telerau ac Amodau Debyd Uniongyrchol

  • Rwy’n cadarnhau bod enw’r person sy’n sefydlu’r aelodaeth Debyd Uniongyrchol ar y cyfrif banc.
  • Rhaid i’r Ganolfan gadw llun cyfredol o ymgeiswyr ar y system archebu. Cadarnhaf y byddaf yn tynnu fy llun ar fy ymweliad cyntaf ac yn casglu fy ngherdyn aelodaeth.
  • Rhaid dangos un prawf adnabod wrth wneud cais am unrhyw becyn debyd uniongyrchol. Rwy’n cadarnhau y byddaf yn gwirio fy hunaniaeth ar fy ymweliad cyntaf.
  • Gwneir taliadau Debyd Uniongyrchol Misol ar y 1af o bob mis neu ar y diwrnod gwaith nesaf.
  • Gallwch rewi taliadau am hyd at 6 mis, e.e. mamolaeth, salwch, neu anaf. Bydd eich Aelodaeth Byw ‘Iach hefyd yn rhewi yn ystod y cyfnod hwn.
  • Mae’r aelodaeth yn ystyried cau canolfannau ac amseroedd agor cyfyngedig ar gyfer gwyliau banc a chyfnodau Nadolig, o ganlyniad nid oes unrhyw ad-daliadau yn daladwy am y cyfnod hwn.
  • Codir y ffi llogi lawn am ganslo os na hysbysir gydag 24 awr o rybudd. Gellir codi ffi diffyg presenoldeb.
  • Ni chynhigir unrhyw ad-daliadau am gardiau Aelodaeth Flynyddol Wythnosol, Misol, Blynyddol na chardiau Aelodaeth Flynyddol Byw‘n Iach. Gellir oedi Tocynnau Blynyddol am hyd at 12 mis, os na all cwsmer fod yn bresennol oherwydd cyflwr meddygol. Bydd angen tystiolaeth i gefnogi cais i oedi aelodaeth.
  • Mae cwsmeriaid sy’n cofrestru ar bob pecyn aelodaeth debyd uniongyrchol wedi ymrwymo i’r cynllun am gyfnod cychwynnol o 6 mis. Ar ôl y cyfnod cychwynnol hwn, gall cwsmeriaid ganslo ar unrhyw adeg trwy roi 1 mis o rybudd ysgrifenedig. Bydd cwsmeriaid sy’n canslo o fewn y 6 mis cyntaf yn cael bil am y taliadau sy’n ddyledus.
  • Mae pob gweithgaredd yn amodol ar argaeledd, mae amodau archebu yn berthnasol.
  • Rhaid cynhyrchu cerdyn aelodaeth ar bob ymweliad.
  • Rhaid cwblhau rhagarweiniad i’r ystafell ffitrwydd / ystafell bwysau ym mhob Canolfan Hamdden unigol yr ydych am ei defnyddio. Gall hon fod yn sesiwn fer os yw’r offer yn debyg neu’r un peth a’ch bod yn hyderus o’i ddefnyddio.

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt