Unigolion sydd yn rhan o Gynllun Rhagoriaeth Byw’n Iach

Gwynedd Council

Darllenwch fwy am bwy sydd yn rhan o’r cynllun rhagoriaeth yma:

Alison Shepherd

Morgan Wynne Davies

Sam Booth

Steffan Rhys Winrow

Helen Pickett

Beth yw eich enw/oedran/lleoliad byw/camp
Helen Pickett, oed 54 yn byw ym Methesda. Ffy’n camp yw triathaoln

Be ydi dy gyflawniad mwyaf hyd yn hyn?
6ed yn bencampwriaeth pellter canolog Ewrop yn 2022, yr ail gystadleuwr o Brydain, a dynes gyntaf yn hanner marathon Bangor 2022.

Ydy Byw’n Iach yn cynnig cymorth perthnasol i chi?
Yndi, mae gallu defnyddio’r ystafell ffitrwydd a phwll nofio wedi helpu i wella ffy’n nofio a chryfder.

Sut mae Byw’n Iach wedi newid/ helpu gyda’ch camp?
Wedi gwella ffy’n sgiliau nofio ac wedi caniatáu i adeiladu cryfder.

Sut fyddech chi’n disgrifio eich profiad gyda Byw’n Iach?
Da, mae’r derbynnydd gwastad yn gyfeillgar ac yn barod i helpu.

Sut mae ein gwasanaeth wedi cael effaith arnoch chi?
Wedi caniatáu i adeiladi gryfder

Beth yw eich hoff beth am ein gwasanaeth?
Faint o ddistaw yw’r pwll ac ystafell ffitrwydd yn cymharu ar drefi mawr

Pa her neu broblem y mae Byw’n Iach yn ei ddatrys i chi?
Wedi caniatáu i mi nofio faint bynnag rwyf angen trwy’r flwyddyn.

Pa mor hir wnaethoch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cyn y Cerdyn Rhagoriaeth?
12 mis

Pa mor aml ydych chi’n defnyddio ein gwasanaeth?
1-2 tro’r wythnos i nofio yn ystod yr haf ac 3-4 tro’r wythnos yn y gaeaf. Fyddaf yn defnyddio’r ystafell ffitrwydd 3 dro’r wythnos yn y gaeaf.

Oes gen ti unrhyw gyngor i bobl ifanc sydd eisiau dechrau dy gamp?
Mae cysondeb a mwynhad yn bwysig. Mae gwaith caled aml yn curo dros dalent yn fy nghamp i!

Alison Shepherd

Nick Thomas

Catherine Elin Roberts

Huw Ifan Davies

Steffan Elgan Williams

Jac Lloyd Crockett

Ania Denham

Daniel Pigott

Beth yw eich enw/oedran/lleoliad byw/camp?
Daniel Pigott / 60 / Wrth ymyl Llannor, Pwllheli / Hoci (cae) a Chriced

Be ydi dy gyflawniad mwyaf hyd yn hyn?
Chwarae i hoci meistri Cymru (Dros 60) yn y Pedair Cenedl a phencampwriaethau Ewropeaidd yn 2023. Hefyd, rwyf yn aelod o’r meistri criced Cymru (dros 60) Sgwad ragarweiniol cwpan y byd (ond oherwydd anaf hamstring, nid rwyf wedi gallu chwarae criced tymor yma ac rwyf yn un tebygol o allu cael y cyfle i gystadlu am le yn y sgwad cwpan y byd i Chwefror 2024.

Ydy Byw’n Iach yn cynnig cymorth perthnasol i chi?
Mae’r cymorth rwyf wedi derbyn gan Fyw’n Iach (aelodaeth am ddim i’r canolfannau) wedi bod yn help mawr wrth i mi fod yn adsefydlu ar ôl anaf i mi allu datblygu agweddau o fy ffitrwydd ac iechyd cyffredinol.

Sut mae Byw’n Iach wedi newid/ helpu gyda’ch camp?
Gwelwch 3. Uchod

Sut fyddech chi’n disgrifio eich profiad gyda Byw’n Iach?
Staff cyfeillgar a cymwynasgar, mynediad hawdd i’r cymwysterau, cymysgedd o sesiynau prysur a ddistaw yn yr ystafelloedd ffitrwydd a phwysau – Dwi dal heb gael cyfle i ddefnyddio’r gwasanaethau eraill ond rwyf yn edrych ymlaen at wneud yn y dyfodol. Mae argaeledd i’r cymwysterau yn wastad yn dda, yn gallu i mi gael hyblyg rwyth yn amseroedd fy hyfforddiant pam mae angen.

Sut mae ein gwasanaeth wedi cael effaith arnoch chi?
Rwyd wedi gallu gwella yn sydyn ar ôl fy anafau a datblygu fy nghryfder i wella anafau wedi achosi gan y proses heneiddio.

Beth yw eich hoff beth am ein gwasanaeth?
Mae argaeledd i’r cymwysterau yn wastad yn dda (gweler 5.)

Pa her neu broblem y mae Byw’n Iach yn ei ddatrys i chi?
Dydi’r cymwysterau rwyf yn defnyddio ddim ar gael i mi adref, felly rwyf wedi gallu gwella o anafau yn gyflymach a rheoli anafau wedi achosi gan heneiddio yn fwy effeithiol.

Pa mor hir wnaethoch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cyn y Cerdyn Rhagoriaeth?
Tua wyth wythnos. Gefais 16 wythnos/32 sesiwn adsefydlu, wedi ei threfnu gan y ffisio yn fy llawdriniaeth leol. Gefais wybodaeth am y cerdyn rhagoriaeth gan James o NERS oedd yn rheoli’r sesiynau.

Pa mor aml ydych chi’n defnyddio ein gwasanaeth?
Pryd bynnag mae amser/anaf yn derbyn i fi ddefnyddio, fel arfer 2-3 waith yr wythnos

Oes gen ti unrhyw gyngor i bobl ifanc sydd eisiau dechrau dy gamp?
Fy nghyngor i bobl ifanc yw trio cymaint o gamp sy’n bosib iddyn nhw gael darganfod pa rhai sy’n dod a fwyaf o frwdfrydedd a mwynhad. Yn benodol i hoci a chriced, trïwch gysylltu ag clwb lleol i ddarganfod pa rhai sydd yn rhedeg sesiynau iau/timau ac ewch draw i drio allan. Os ydych yn swil, gwelwch os allwch berswadio ffrind i ymuno gyda chi ar y cychwyn.

Dylan William Davies

Gruff Rhys

Danielle Jasmine Bowyer

Erin Mair Lauder

Leon Jac Lauder

Saran Mair Jones

Katie Cranwell

Beth yw eich enw/oedran/lleoliad byw/camp?
Fy enw yw Katie, ag rwy’n byw yn Rhydymain, pentref bach rhwng Dolgellau a Bala. Rwy’n wreiddiol o’r Bala. Dwi’n 31 ag fy nghamp yw nofio.

Be ydi dy gyflawniad mwyaf hyd yn hyn?
Dwi wedi cystadlu dros Gymru pan yr oeddwn yn fy arddegau. Ers hynny dwi wedi sicrhau rank 1 yng Nghymru yn fy oedran 30-35 mewn nofio Masters.

Ydy Byw’n Iach yn cynnig cymorth perthnasol i chi?
Mae Byw’n Iach yn rhoi cymorth enfawr i mi, yn galluogi i mi nofio yn aml ag o hyd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennai.

Sut mae Byw’n Iach wedi newid/ helpu gyda’ch camp?
Heb Fyw’n Iach ni fuasai dal yn gallu cystadlu. Gan fy mod yn gweithio llawn amser, yn rhedeg busnes ag hefo dau o blant, ni fuasai hefo’r amser i fynd i Ruthun (nofio Masters agosach) digon o weithiau i allu cystadlu. Diolch i Fyw’n Iach fedrai nofio yn y Bala faint bynnag o weithiau a dwi eisiau bob wythnos.

Sut fyddech chi’n disgrifio eich profiad gyda Byw’n Iach?
Mae fy mhrofiad gyda Byw’n Iach hyd yn hyn wedi bod yn ardderchog. Rwy’n gobeithio byddai yn gallu parhau i drafod yn y dyfodol ffyrdd i ddatblygu canolfannau er mwyn rhoi’r profiad gorau i eraill.

Sut mae ein gwasanaeth wedi cael effaith arnoch chi?
Mae’r gwasanaeth wedi effeithio arna i mewn ffordd bositif iawn. Heb y gwasanaeth yma ni fuaswn yn gallu gwneud yr hyn rwy’n caru. Felly mae’r effaith ar fy iechyd meddwl a corfforol yn fendigedig.

Beth yw eich hoff beth am ein gwasanaeth?
Fy hoff beth am y gwasanaeth ydi pa mor dda mae pawb am gyfathrebu

Pa her neu broblem y mae Byw’n Iach yn ei ddatrys i chi?
Mae Byw’n Iach yn datrys y broblem o gostau mawr ag hefyd amser trefeillio sydd yn bwynt enfawr i mi.

Pa mor hir wnaethoch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cyn y Cerdyn Rhagoriaeth?
Dwi wedi bod yn mynd i bwll nofio Bala ers yr oeddwn yn tua 8 oed i hyfforddi!

Pa mor aml ydych chi’n defnyddio ein gwasanaeth?
Dwi yn mynd i’r pwll tua 3 gwaith y wythnos. Hoffwn neud mwy ond yn anffodus does dim ond bore Mercher ar gael, pe bai mwy o foreau ar gael buaswn yn mynd bob dydd!

Oes gen ti unrhyw gyngor i bobl ifanc sydd eisiau dechrau dy gamp?
Yn gyntaf, mwynhewch. Mae rhaid mwynhau hyfforddiant a chystadlu gymaint â’i gilydd. Yn ail, peidiwch â phoeni am bobl eraill. Cystadlwch yn erbyn eich hun i fod y gorau, fe ddaw’r gweddill yn naturiol. Yn trydydd, mae unrhyw gamp yn waith anodd, ond mae unrhyw un yn gallu ei wneud. Gwthiwch trwy’r wal (metaphoric!) a fydd y canlyniad yn werth pob eiliad o’r gwaith caled.

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt