Dewis Iaith:

Biocircuit Technogym Byw’n Iach

Hyfforddiant cylched clyfar, dan Arweiniad AI wedi’i bersonoli i chi mewn sesiwn llai na 30 Munud – dim gwaith meddwl, dim ond ymarfer.

Mae Ystafell Ffitrwydd Biocircuit yn rhan o becyn Debyd Uniongyrchol Aelodau Byw’n Iach, ac mae ar gael ym Byw’n Iach Bangor (yn dod yn fuan i Byw’n Iach Dwyfor!).

Beth yw Biocircuit?

  • Mae Biocircuit yn system hyfforddiant cylchol arloesol gan Technogym sy’n darparu ymarferion wedi’u personoli sy’n addasu i’ch corff a’ch amcanion ffitrwydd.
  • Mae’n cyfuno peiriannau cardio a chryfder gyda thechnoleg glyfar – ac yn gwneud y gwaith i gyd i chi.
  • Diolch i dechnoleg batent Biodrive a rhaglenni dan arweiniad, mae defnyddwyr yn mwynhau ymarferion diogel, effeithiol ac amser-effeithlon, wedi’u cynllunio ar gyfer amrywiaeth o nodau ffitrwydd.

Ydi Biocircuit yn addas i mi?

  • Mae Biocircuit yn addas i bawb. Mae’n berffaith i’r rhai sy’n dechrau ar eu taith ffitrwydd, i bobl profiadol, i unrhyw un sy’n dychwelyd at ymarfer ar ôl seibiant, neu i’r rhai nad ydynt yn siŵr ble i ddechrau.
  • Mae’r peiriannau’n gwneud popeth i chi – yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw dod am sesiwn 30 munud. Mae pob sesiwn yn cael ei harwain, ei theilwra a’i hawtomeiddio’n llwyr ar eich cyfer chi.
  • Dychmygwch raglen ffitrwydd lle mae popeth eisoes wedi’i osod i chi. Hyfforddiant personol heb y pris uchel – dyna sy’n gwneud offer Biocircuit mor arbennig.

Pam dewis Biocircuit?

  • Teimlad Personol: Mewngofnodwch drwy ap Technogym yma: Lawrlwytho. Mae’r system yn defnyddio eich gwybodaeth byddwch yn ddarparu e.e taldra/pwysau a.y.y.b, ac yn gosod eich rhaglen hyfforddi yn awtomatig – gan gynnwys addasu uchder sedd, cyflymder a llwyth gwaith – wedi’i deilwra i chi.
  • Cylched Dan Arweiniad: Sganiawch y qr code wrth gychwyn a symudwch drwy bob gorsaf gyda hyd a thrawsnewidiadau wedi’u gosod ymlaen llaw. Mae’r peiriannau’n barod i’w defnyddio ar unwaith, heb oedi.
  • Monitro: Monitrwch eich perfformiad ar sgriniau’r offer ac yn yr ap , a dilynwch eich cynnydd ar ôl pob sesiwn.
  • Hyfforddiant Effeithlon: Ymarfer corff llawn mewn llai na 30 munud – perffaith ar gyfer amserlenni prysur.
  • Awtomeiddio ClyfarMae’r technoleg yn glyfar ac yn addasu gwrthiant a chyflymder yn awtomatig i chi.
  • Diogel ac o Dan Arweinia: Mae rhaglenni dan arweiniad yn helpu i leihau risg ac i wella cysondeb.
  • Dilyn Cynnydd Cadwch olwg ar eich perfformiad a chynnal cymhelliant gyda chanlyniadau mesuradwy.