Amdan Byw’n Iach
Mae Byw’n Iach.cyf yn gwmni cyfyngedig trwy warant o dan reolaeth Cyngor Gwynedd. Mae Byw’n Iach yn gweithredu cytundeb ar ran Cyngor Gwynedd i reoli 11 Canolfan Hamdden yn y sir a darparu ystod o wasanaethau Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd.
Mae Byw’n Iach yn cyflogi dros 250 o staff yn lleol er mwyn cynnal y gwasanaeth. Hefyd mae gennym Gwmni Bwrdd o Gyfarwyddwyr sydd yn arwain y cwmni ar lefel strategol.
Pwrpas Byw’n Iach yw “Cynnig gwasanaethau hamdden a ffitrwydd cynaliadwy o’r ansawdd uchaf i’n cymunedau, er mwyn gwella iechyd, lles , ffitrwydd a sgiliau pawb.”
Ein gweledigaeth yw “Pob trigolyn yn gwsmer- pob teulu’n gwella eu hiechyd a lles- pob Cymuned yn elwa”.