Dewis Iaith:
Mae Byw’n Iach Glaslyn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae nofio yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei gynnig, gyda Phwll Nofio 25 metr a phwll bach. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym hefyd yn cynnig dewis gwych o ddosbarthiadau ffitrwydd, pob un wedi’i gynllunio i’ch helpu i gadw’n heini ac iach. Mae gennym ni rywbeth ar gyfer pob gallu, o’r rhai sydd eisiau gweithgaredd dwys, i’r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Yn yr adeilad mae gennym lyfrgell a chaffi yn gweini bwyd ffres a choffi gwych bob dydd.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.
Stryd y Llan,
Porthmadog,
Gwynedd
LL49 9HW
+
Mae dosbarthiadau ffitrwydd Byw’n Iach GLASLYN wedi’u canslo o 12:00yh ar DYDD Mawrth, 23/06/2026 tan 26/06/2026, oherwydd y tywydd poeth. Rydym wedi gwneud y penderfyniad yma er lles ein cwsmeriaid a’n staff. Diolch.
Bydd pwll nofio bach Glaslyn yn cau am gyfnod rhwng 30/06/26 tan 04/08/26 oherwydd gwaith cynnal a chadw. Ni fydd yn effeithio ar wersi nofio o gwbl. Byddwn yn diweddaru cwsmeriaid yn nes at yr amser agor, os bydd unrhyw newid.
Mi fydd yr pyllau nofio ar gau dydd Iau 09/07/26 11:15-12:30 a 14:45 – 15:30 ac 16/07/26 09:30 – 16:00
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.