Dewis Iaith:

NERS

Mae Rhaglen Cyfeirio i Ymarfer Gwynedd yn rhan o Raglen Cenedlaethol sydd yn cael ei cydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r cynllun wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion segur, sy’n wynebu risg o ddatblygu problemau iechyd, neu bobl â ganddynt gyflwr iechyd yn barod. Diben y cynllun yw hyrwyddo iechyd a lles drwy annog gweithgareddau corfforol hirdymor.

Sut mae manteisio ar y gwasanaeth?

Bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan Weithiwr Iechyd Proffesiynol (fel arfer eich meddyg teulu, nyrs practis neu ffisiotherapydd sy’n ymwneud â’r clefyd dan sylw) a fydd â mynediad at wefan dosbarthu atgyfeiriadau NERS.

Ydw i’n gymwys i gael mynediad at NERS?

Mae’r Cynllun yn targedu pobl 16 oed sydd â/neu mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig. Mae meini prawf penodol a bydd rhaid i’ch arbenigwr iechyd ofalu eich bod yn cyd-fynd â nhw.

Faint fydd y gost?

£3.00 yw’r sesiynau ymarfer o dan y cynllun.

Beth yw hyd y cynllun?

Mae’r cynllun yn para o 4-32 wythnos yn dibynnu ar reswm atgyfeirio; bydd pob sesiwn yn para awr a bydd y gweithgaredd yn amrywio o weithgaredd dan do; campfa, ymarfer cylchol neu weithgaredd awyr agored. Mae disgwyl i chi fynychu’r sesiynau yn rheolaidd a mynychu ymgynghoriadau dilynol ar ôl 16 a 52 wythnos. Mae amseroedd aros lleol neu amseroedd aros atgyfeirio yn amrywio ac yn ddibynnol ar argaeledd staff cymwys.

Cyflyrau Iechyd Cronig

Mae gan y Gweithwyr Ymarfer Corff nifer o gymwysterau, ac maent hefyd yn gymwys i weithio gyda chleientiaid â chyflyrau cronig:

  • Hyfforddwyr Adferiad Cardiaidd BACPR
  • Hyfforddwyr Ymarfer – Anadlu Cronig
  • Hyfforddwyr Ymarfer – Canser
  • Hyfforddwyr Rheoli Gordewdra a Diabetes
  • Hyfforddwyr Sefydlogrwydd Corfforol ac Atal Codymau
  • Hyfforddwyr Ymarfer – Iechyd Meddwl
  • Hyfforddwr Gofal Cefn

 

Cyfarfyddwch y Tîm!

Y Tîm

Am ragor o wybodaeth am y cynllun NERS, ewch i’r wefan NERS: NERS

Neu cysylltwch a cydlynydd yr rhaglen, James Richards ar 07833441175 neu gyrrwch ebost i jamesleighrichards@bywniach.cymru