Dewis Iaith:

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae cynnal busnes mewn amgylchedd proffesiynol a chyfforddus yn hanfodol ar gyfer cynhyrchiant a llwyddiant. Mae Byw’n Iach yn deall pwysigrwydd cael mannau cyfarfod amlbwrpas ac offer da. O sesiynau trafod syniadau tîm bach neu gyflwyniad gan gleientiaid gyda thîm mwy, mae ein hystafelloedd cyfarfod yn darparu’r lleoliad perffaith ar gyfer pob math o gyfarfod.

Ym mha ganolfannau mae’r ystafelloedd cyfarfod?

  • Byw’n Iach Glaslyn 01766 512711
  • Byw’n Iach Arfon 01286 676451
  • Byw’n Iach Bro Dysynni 01654 711763
  • Byw’n Iach Dwyfor 01758 613437
  • Byw’n Iach Glan Wnion 01341 423579

Am fwy o wybodaeth neu i archebu ystafell cyfarfod, gyrrwch ebost i cyswllt@bywniach.cymru