Dewis Iaith:

Byw’n Iach Arfon, Caernarfon

Mae Byw’n Iach Arfon yn gweithredu ar draws dau safle – y Ganolfan Hamdden a’r Ganolfan Denis – gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd i’r gymuned.

Mae gennym Bwll Nofio 25 metr a Phwll Dysgu, gyda gwersi i blant ac oedolion i feithrin hyder a sgiliau. Rydym yn cynnig rhaglen eang o ddosbarthiadau ffitrwydd ar gyfer pob gallu, ynghyd ag Ystafell Ffitrwydd a Phwysau llawn offer a man hyfforddi swyddogaethol ar gyfer cryfder a pherfformiad.

Rydym hefyd yn falch o fod yn Ganolfan Hyfforddi Swyddogol HYROX, gan gefnogi aelodau i hyfforddi ar gyfer ras ffitrwydd ryngwladol HYROX.

Dewch o hyd i'n canolfan

Ffordd Bethel,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 1DU

+

Neges i Cwsmeriaid

Ni fydd unrhyw sesiynau ioga ymlaen yn ganolfannau’r gogledd ar y dyddiadau isod:
– Dydd Llun 04/05/26
– Dydd Mercher 06/05/26
– Dydd Iau 07/05/26

Mi fydd Byw’n Iach Arfon (safle pwll nofio) ar gau tan 5 o’r gloch Dydd Gwener 08/05/26.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.

Ap Byw'n Iach

Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.

Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle

Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.

Babi Actif

Blynyddoedd cynnar gyda rhieni,
a mamau beichiog cymraeg

Plant Actif

Plant oed cynradd
a’u rhieni

Pobl Ifanc Actif

Pobl ifanc
rhwng 11-24

Gall Genod

Merched a merched
o bob oed

Actif Am Oes

Ffitrwydd dwysedd isel
a chwaraeon i bob oed