Mae Cwmni Byw’n Iach wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cynhwysol, i bawb yn cynnwys pobl anabl, ar draws eu cyfleusterau a rhaglenni. Mi fydd y cwmni hefyd yn defnyddio ei adnoddau i annog partneriaid eraill i weithio’n gynhwysol fel bod cyfleoedd addas i bawb o fewn ein cymunedau i fod yn actif.
Rydym yn falch o fod wedi pasio achrediad Insport ar y lefel Rhuban Efydd. Mae Insport yn rhaglen trwy Chwaraeon Anabledd Cymru sydd yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol yn y byd chwaraeon.
Mae sawl cyfle cynhwysol gwahanol i fod yn actif o fewn ein canolfannau ac o fewn ein rhaglenni. Rydym yn gobeithio fod y gwybodaeth isod yn help i chi dod o hyd I’r gwybodaeth mwyaf defnyddiol.
Rydym yn caniatau mynediad am ddim i Ofalwyr i’r Pwll Nofio ac i’r Gampfa os ydy’n angenrheidiol i gwsmeriaid anabl derbyn cefnogaeth er mwyn cymryd rhan
Mae prisiau consesiwn yn berthnasol i’r canlynol: 0-24 oed, defnyddwyr anabl a defnyddwyr 60+ oed. Diliwch y linc i weld holl brisiau Byw’n Iach.
Gall defnyddwyr anabl gael cyfraddau consesiynol ar yr amod eu bod yn dangos tystiolaeth o’r canlynol:-
Bydd y neuadd yn llawn sesiynau hwyliog yn cynnwys castell neidio, ardal synhwyraidd ac amrywiaeth o wahanol deganau felly ni fydd prinder o bethau hwyliog i’w gwneud! Pwy fydd yn gallu ymuno â’r sesiynau? Mae’r sesiynau yn agored i bob plentyn neu berson ifanc ag anghenion ychwanegol yn ogystal â’u teuluoedd. Mae croeso i frodyr a chwiorydd, rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau i gyd! Mae’r sesiynau ar gyfer y teulu cyfan!
Dydd Sadwrn cyntaf pob mis:
Ail ddydd Sadwrn pob mis:
Mae Sesiynau Nofio i’r Anabl ar gael ym mhob un o’r 7 Pwll Nofio:
Mae Sesiynau Nofio i’r Anabl, gyda defnydd o Hoist Ystafell Newid Trosglwyddadwy Oxford Dipper 140 ar gael yn ein holl byllau.
Mae gwersi nofio grŵp ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol ar gael ym mhob pwll.
Mae Byw’n Iach yn cynnig nofio am ddim i bawb sydd â cherdyn adnabod Gofalwr Ifanc. Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus i’r gofalwr + ffrind neu aelod o’r teulu.
Mae Byw’n Iach yn cymryd rhan yn y cynllun Cerdyn MAX cenedlaethol. Mwy o wybodaeth ar y wefan hon : https://mymaxcard.co.uk/ . Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio i deuluoedd yn ein pyllau ar gyfer teuluoedd sydd â Cherdyn Max. Bydd angen i un oedolyn o’r teulu fod yn ddeiliad Cerdyn Byw’n Iach, er mwyn i’r teulu gael mynediad i nofio am ddim.
Sesiynau yn ein Canolfannau sydd wedi trefnu gan Bartneriaid
Clybiau Insport yng Ngwynedd
Ymuno (disabilitysportwales.com)