Dewis Iaith:

(Mewnol) Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer Corff ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

(Mewnol) Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer Corff ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Teitl y Swydd – Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer Corff ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Hyd – Medi 2025 – Mai 2026 (9 Mis)

Rydym yn ystyried cyfnod secondiad am y rôl yma

Cymwysterau Hanfodol Angenrheidiol – Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2 + eraill

Cymwysterau Dymunol Angenrheidiol – Lefel 3 PT, Lefel 3 NERS + uwch

Gofynion Personol –

  • Yn gallu teithio’n annibynnol
  • Hyder a chymhwysedd i gyflwyno rhaglenni/dosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer poblogaethau arbennig.
  • Meddu ar sgiliau rhyngbersonol, ysgrifenedig a llafar da gyda’r gallu i siarad â chleientiaid / cwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Ymwybyddiaeth o GDPR
  • Yn fedrus gyda TG

Cyfrifoldebau

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Atgyfeirio Ymarfer Corff a Swyddogion Ymarfer Corff NERS eraill i gyfrannu at y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corff a gwella lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd pobl Gwynedd.

Bydd disgwyl i chi yn eich rôl fel Swyddog Ymarfer Corff addysgu, annog, cefnogi ac arwain defnyddwyr gwasanaeth at y math mwyaf priodol o weithgarwch corfforol.

Byddwch yn cynorthwyo gydag adolygu rhaglenni gweithgarwch personol, ymgynghoriadau cychwynnol, ymsefydlu ffitrwydd, cynnal adolygiadau cynnydd ac asesiadau cyn/ôl gyda chwsmeriaid sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Am unrhyw wybodaeth, ac ymholiad pellach, cysylltwch gyda: jamesleighrichards@bywniach.cymru