Mae Byw’n Iach yn falch o gyhoeddi partneriaeth gyda Gwersyll yr Urdd Glan-llyn er mwyn cynnig darpariaeth Swim Safe Cymru i blant fydd yn mynychu cyrsiau awyr agored yn y gwersyll a gyda’r Gwasanaeth Awyr Agored. Mae Swim Safe yn gynllun a grëwyd gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) a Chorff Llywodraethu Cenedlaethol Swim England yn ôl yn 2013. Erbyn hyn mae wedi cael ei fabwysiadu gan Nofio Cymru ac mae darpariaeth ar draws Cymru wedi tyfu dros y blynyddoedd, gan gynnwys ar draws Gwynedd. Pwrpas y gweithgaredd ydi addysgu unigolion am beryglon dŵr agored, technegau hunan-achub, a sut i alw am gymorth. Y ffordd gorau i drosglwyddo’r negeseuon hollbwysig yma ydi drwy gamu i mewn i’r dŵr ac ymarfer!
Mae Cymru yn wlad o arfordir prydferth a thirwedd naturiol hardd. Mae hefyd yn wlad sy’n derbyn cryn dipyn o law i fwydo’r afonydd a llynnoedd. Yn ôl Tomos Lloyd, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Byw’n Iach,
“Rydyn ni eisiau plant Gwynedd fwynhau a chael mynediad i weithgareddau dŵr ac awyr agored ond mae’n bwysig adnabod y peryglon a sicrhau fod penderfyniadau da yn cael ei gwneud. Drwy ddarparu achrediad Swim Safe Cymru rydym yn cynyddu ymwybyddiaeth a gobeithio yn rhoi hyder i blant fanteisio ar gyfleoedd yn yr awyr agored drwy glybiau neu raglenni penodol.”
Ers 2022 rydym ni yn Byw’n Iach wedi bod, ac yn dal i ddarparu sesiynau i blant ysgolion cynradd ar draws Gwynedd. Diolch i Gogledd Cymru Actif mae’r bartneriaeth arloesol gyda Gwersyll yr Urdd Glan-llyn am roi cyfle i addysgu hyd yn oed mwy o blant, sydd eisoes yn mynd ar gyrsiau preswyl awyr agored.
Dywedodd Dyfed Davies, Swyddog Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr Byw’n Iach,
“Rydym yn angerddol am ddiogelwch dwr, nid yn unig mewn gwersi nofio yn y canolfannau ond ar ein traethau, yn ein llynnoedd ac afonydd. Does wybod pryd fydd angen y sgiliau yma felly’r mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael y gorau. Mae’r bartneriaeth yma am sicrhau fod cannoedd o blant yn cael y profiad a’r hyfforddiant gorau am flynyddoedd i ddod”
Bydd pawb sydd yn cymryd rhan yn derbyn tystysgrif a chap nofio i’w hatgoffa o’r gweithgaredd.
Am fwy o wybodaeth am egwyddorion a chynnwys y cynllun ewch i Swim Safe.
