Mae Byw’n Iach Bangor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd.
Nofio yw ffocws allweddol y safle. Gyda dau bwll nofio, bwrdd plymio 1m, byrddau 3m a llwyfan 5m (yr unig un yng Ngogledd Cymru). Rydym hefyd yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion, yn ogystal ag ystod o wersi deifio.
Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i helpu i wella technegau deifio a diogelwch nofio, rydych yn siwr o fwynhau eich profiad nofio yn Byw’n Iach Bangor.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau Wattbike a phwysau rhydd.
Mae gennym ni 2x gwrt pêl-droed allanol 5 bob ochr gydag AstroTurf 3G.
Ffordd Y Garth,
Bangor,
Gwynedd
LL57 2SD
+
O 3ydd o Fawrth, bydd gwaith yn cychwyn ar faes parcio Byw’n Iach Bangor, bydd y gwaith yn para am tua 3 mis. Rydym yn annog ein cwsmeriaid i barcio yn gall, rhannu ceir neu ddefnyddio mannau gollwng oherwydd niferoedd parcio cyfyngedig.
Bydd yr ystafell ffitrwydd ar gau rhwng 07:00-17:00 ar 30/04/25 a 01/05/25. Bydd yn ail agor rhwng 17.00 – 22.00 ar y ddau ddiwrnod.
Mi fydd y pwll bach yn gau am 15.00 ar Ddydd Iau 08/05/25.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.