Dewis Iaith:
Ym mis Mehefin 2026, cynhaliodd Byw’n Iach sesiynau Diogel yn y dŵr ar gyfer Ysgolion Cynradd Gwynedd ar draws y sir yn Plas Heli, Tywyn, Y Bala a Plas Menai. Roedd yr sesiynau hyn mewn cydweithrediad â Phlas Menai, Parkwood ac Urdd Gobaith Cymru.
Mae Diogel yn y Dŵr yn gynllun a reolir yn genedlaethol gan yr RNLI a Nofio Cymru i ddysgu pobl ifanc sut i aros yn ddiogel mewn dŵr agored. Mae Gwynedd yn sir gyda 180 milltir o arfordir, afonydd a llynnoedd, gan wneud y sesiynau hyn yn hanfodol i’r gymuned leol.
Diolch i grant gan Children’s Alliance, roedd modd cynnig sesiynau eleni yn rhad ac am ddim i’r holl ysgol a fynychodd, gan ganiatáu y gall blant o bob cefndir gymryd rhan a dysgu sgiliau a allai achub eu bywydau ryw ddiwrnod.
Mynychodd dros 350 o blant ac roedd y sesiynau’n gyfle i ddysgu’r cod diogelwch dŵr, a rhoi’r cyfle iddyn nhw ymarfer sgiliau achub bywyd mewn dŵr agored fel llynnoedd a’r môr. Gwyliwch y fideo isod am grynodeb o’r digwyddiadau:
Diolch i bawb a fynychodd y sesiynau, ac i’n holl bartneriaid – edrychwn ymlaen at eich gweld chi gyd flwyddyn nesaf!