Dewis Iaith:
Ar ddydd Llun 01/06/26, cynhaliodd Byw’n Iach Bro Dysynni ddigwyddiad agoriadol ar gyfer y cae pob tywydd newydd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i aelodau’r gymuned, ysgolion lleol a’r timau a fu’n gyfrifol am helpu i wireddu’r prosiect ddod ynghyd i ddefnyddio’r cae ac i ddysgu mwy am y cyfleuster newydd.

Cafwyd fuddsoddiad o £360,000 rhwng Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Mantell Gwynedd, Byw’n Iach, Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Tywyn a’r gymuned lleol, a bydd yn darparu cyfleusterau modern i’r gymuned gan gynnwys y clybiau hoci a phêl-droed ar ysgolion lleol.
Yn ystod y dydd, clywsom areithiau gan Medwyn Hughes (Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned yng Nghyngor Gwynedd), Paul Whapham o Hoci Cymru, Dave Thorpe (Pennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn), Beth Lawton (Cadeirydd Bwrdd Byw’n Iach), a Lynda Bennet, cynrychiolydd o Glwb Hoci Dysynni, yn ogystal â gemau a gweithgareddau i’r ysgolion lleol gan Dîm Cymunedau Actif Byw’n Iach. Torrwyd y rhuban gan Evie Holt a John Bennett.
Diolch yn fawr iawn i’n partneriaid drwy gydol y prosiect, ni fyddai wedi bod yn bosibl heboch chi!
Eisiau llogi’r cae newydd? Cysylltwch ni heddiw!