Dewis Iaith:
Ar Ddydd Sadwrn 04/07/26, cynhaliwyd Byw’n Iach ei Chystadleuaeth Gymnasteg flynyddol yn Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog. Mae’r cystadlaethau yn boblogaidd bob blwyddyn ac mae’n gyfle i blant sydd yn mynychu a dosbarthiadau gymnasteg Byw’n Iach ddatblygu eu sgiliau a dangos yr hyn maent wedi dysgu yn ei dosbarthiadau. Eleni, fuodd 169 o blant yn gystadlu o 8 canolfan Byw’n Iach.
Roedd y safon y cystadlu yn wych gan yr holl ganolfannau, ond un canolfan daeth i’r brig. Byw’n Iach Glaslyn oedd yn gyntaf am yr pedwerydd flwyddyn Dyma ei 7 fed tro yn ennill y wobr. Mi oedd Byw’n Iach Glaslyn wedi dilyn yn agos gan Byw’n Iach Plas Silyn yn ail a Byw’n Iach Plas Ffrancon yn drydydd.
Pob blwyddyn mae’r wobr John Pike hefyd yn cael ei rhoi i’r bachgen ar ferch sydd gyda’r sgôr uchaf yn y gystadleuaeth. Eleni, Lili Hedd Williams o Byw’n Iach Glaslyn oedd y sgôr uchaf o’r gystadleuaeth merched gyda sgôr o 27.65. O’r gystadleuaeth bechgyn, Oliver Middleton o Byw’n Iach Penllyn gyda sgôr o 27.90 buodd yn buddugol. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt!

Mae ein dosbarthiadau ni yn Byw’n Iach yn dilyn llwybrau Rise Gymnastics ar gyfer datblygu’r sgiliau hanfodol o fewn y dosbarthiadau er mwyn darparu’r gwersi gorau yn ein canolfannau. Mae 9 o ganolfannau Byw’n Iach yn darparu gwersi Gymnasteg o ansawdd uchel ac mae nifer o lefydd ar gael i ddechreuwyr gychwyn o’r newydd.
Am fwy o wybodaeth am ddosbarthiadau a lefelau gwahanol o gyrhaeddant yn y dosbarthiadau dilynwch y linc a chysylltwch gyda’r canolfannau, neu cysylltwch gyda David Morris ein Cydlynydd Gymnasteg, ar davidwynmorris@bywniach.cymru