Dosbarthiadau Ffitrwydd
Mae gennym amrywiaeth eang o Ddosbarthiadau Ffitrwydd ar gael yn canolfannau Byw’n Iach.
Mae gennym ddosbarthiadau sy’n addas ar gyfer pob lefel a gallu.
Yn amrywio o ymarferion dwys i’r rhai sy’n canolbwyntio ar y meddwl a’r corff. Os ydych chi’n dymuno colli ychydig o bwysau neu gynnal eich ffitrwydd, yna gallai dosbarth ffitrwydd fod yn ddelfrydol i chi.
Mae dosbarthiadau ffitrwydd yn ffordd wych o wella’ch ffitrwydd yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd. Profir bod cymhelliant ychwanegol yn eich helpu i barhau ac yn eich helpu i gyrraedd eich nodau yn fwy cyson.
Cynhelir y dosbarthiadau gan hyfforddwyr profiadol a chymwys.
Rydym yn argymell cyrraedd 10 munud cyn dechrau’r dosbarth os mai dyma’ch tro cyntaf, i gael sgwrs gyda’r hyfforddwr. Hefyd rydym yn argymell archebu eich lle yn y dosbarth ymlaen llaw, gan eu bod yn gallu bod yn boblogaidd iawn.
Gall cwsmeriaid efo pecyn Debyd Uniongyrchol fynychu unrhyw ddosbarthiadau ffitrwydd fel rhan o’u pecyn, a gallant hyd yn oed archebu eu lle ar-lein!
Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau ar gael ledled Gwynedd, gan gynnwys:
- Boxercise
- Cyflyru Cylchol
- Cyflyru Cylchol Ysgafn
- Cyflyru Craidd
- Cyflyru Llwyr
- Effaith Metabolig
- Hyfforddiant Swyddogaethol
- HIIT
- Pilates
- Pump FX
- Seiclo Dan Do
- Ioga
- Aerobeg Cadair
- Aerobeg Dwr
- FITBALL
- Bootcamp
- Kettlebells
- HIIT
- Mamau Actif
- Tenis Cymdeithasol
I ddarganfod pa ddosbarthiadau sydd ar gael yn eich canolfan leol, ewch i’w tudalennau yma:
Canolfannau