Dewis Iaith:

Blocs Cychwyn

Blocs Cychwyn

Mae Blocs Cychwyn yn raglen hwyliog, gyffrous i gyflwyno plant i gamp athletau gan Athletau Cymru! Darllenwch fwy isod!

Beth? 10 sesiwn athletau i blant sydd yn gweithio trwy basbort o sgiliau amrywiol.  Bydd plant yn dysgu’r sgiliau symud allweddol sydd eu hangen ar gyfer bywyd mewn chwaraeon, mewn amgylchedd diogel a chadarnhaol, trwy gemau sydd wedi’u cynllunio i ddysgu sylfeini rhedeg, neidio a thaflu i blant.

Oed? Plant rhwng 4 a 9 oed o bobl gallu

Lle a phryd?

  • Byw’n Iach Glaslyn – Dydd Iau 16:15 – 17:00
  • Byw’n Iach Plas Silyn – Dydd Mawrth 15:30-16:15
  • Byw’n Iach Pafiliwn, Abermaw – Dydd Mawrth 16:00 – 16:45
  • Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau – Dydd Mercher 16:00-16:45
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala – Dydd Mawrth 16:45-17:30
  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli – Dydd Mawrth 16:00-16:45

Pris? £42.20

Sut i archebu a thalu?
Ffoniwch y ganolfan i archebu eich lle heddiw!

Am wybodaeth bellach am y cynllun, dilynwch y linc i’r wefan yma: Gwefan Blocs Cychwyn

Mae croeso i rieni a gwarchodwyr gymryd rhan neu gwylio eu plant yn ystod y cynllun yma.