Tîm Chwaraeon am Oes Gwynedd yn ymuno a Byw’n Iach
Ar Fedi’r 1af 2021 bydd Tîm Chwaraeon am Oes Cyngor Gwynedd yn trosglwyddo i gwmni Byw’n Iach. Mae Byw’n Iach yn gwmni nid am elw, sydd yn rheoli 12 o Ganolfannau Hamdden ar draws y sir ar ran y Cyngor. Mae’r Tîm Chwaraeon am Oes yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau chwaraeon i gymunedau lleol. Fel rhan o’r trosglwyddiad yma bydd Uned Partneriaethau newydd a chyffrous yn cael ei sefydlu o fewn y cwmni a fydd yn datblygu partneriaethau newydd law yn llaw â chlybiau, ysgolion a mudiadau yn y sir o dan adain Byw’n Iach.
Mae llawer o brosiectau cyffroes ac arloesol dan sylw yn dilyn y trosglwyddiad. Dywedodd Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach
“Mae Byw’n Iach yn edrych ymlaen at groesawu Chwaraeon Am Oes fel Uned Bartneriaethau ac yn awyddus ddatblygu ac adeiladu ar yr hyn sydd gan Byw’n Iach i gynnig i glybiau, ysgolion a chymunedau’n barod. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r cyfleoedd a’r cydweithio.”
Ategodd Alun Jones, Rheolwr Rhaglenni Chwaraeon Am Oes:
“Mae’r Tîm yn edrych ymlaen at fod yn rhan o Byw’n Iach ac i fod mewn sefyllfa i ehangu ar y ddarpariaeth mae’r Tîm wedi bod yn ei gynnig dros y blynyddoedd. Tra bydd nifer o’n prosiectau llwyddiannus yn parhau i gael eu cynnig gan gynnwys Gall Genod Gwynedd, Clwb Dal i Fynd, INSPORT ac amryw o gystadlaethau gwahanol – bydd hwn yn gyfle i gyflwyno nifer o gynlluniau/prosiectau newydd- i dargedu trigolion Gwynedd o bob oed sydd ddim ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn rheolaidd. Mae’n gyfle gwych i ehangu darpariaeth chwaraeon a gweithgareddau corfforol Byw’n Iach tu allan i waliau Canolfannau Hamdden y Sir.
Yn sicr un o’n prif flaenoriaethau fydd gwella’r berthynas/system gyfathrebu hefo clybiau’r Sir -er mwyn ehangu ar y cyfleoedd i gyfranogi, ynghyd a sicrhau bod clybiau yn ymwybodol o’r holl gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw ddatblygu. Mae hon yn amser cyffrous i’r Tîm – gyda’r pandemig wedi cael gymaint o effaith ar lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol rhan helaeth o drigolion Gwynedd – rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn nol i fod yn actif.”
I gyd-fynd efo’r trosglwyddiad ac i gryfhau eu gallu i gyrraedd gwahanol grwpiau o’r gymuned, mi fydd y cwmni’n adeiladau ar ei Is-brand “Actif am Oes” sydd yn targedu pobl hyn neu rhai sydd yn chwilio am gyfleoedd ymarfer dwysedd is, gyda chyfres o is-brandiau newydd. Fydd hyn yn gwneud hi’n haws i bobl cael hyd i weithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw .e.e. rhieni babis a phlant ifanc iawn, plant a phobl ifanc a genethod a merched. Mae’r cwmni yn gofyn i drigolion cadw llygaid allan am y logos lliwgar newydd.