Dewis Iaith:

Cynorthwyo bywyd ar ôl strôc

Cynorthwyo bywyd ar ôl strôc

Mae grŵp ymarfer corff arbenigol Bywyd Ar Ôl Strôc yng Nghaernarfon yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd adsefydlu parhaus, gweithgarwch corfforol ac addysg i leihau’r risg o strôc arall a chynorthwyo adferiad hirdymor.

Mae’r grŵp wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Byw’n Iach, sydd â’i ffocws ar hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach sy’n cyd-fynd yn agos â nodau’r sesiynau ymarfer corff penodol i gleifion strôc. Trwy ddarparu amgylchedd cynorthwyol, strwythuredig a chymunedol, mae Byw’n Iach yn galluogi cyfranogwyr i barhau â’u hadferiad y tu hwnt i leoliadau gofal iechyd traddodiadol ac yn annog ymgysylltu hirdymor ag ymddygiadau iach. Gyda’i gilydd, mae’r bartneriaeth hon yn cynrychioli cam pwysig ymlaen mewn cryfhau gofal ar ôl strôc, grymuso cleifion i reoli eu hadferiad, a chynorthwyo i atal strociau ledled Gwynedd a Môn.

Mae’r grŵp yn cynnal sesiynau ymarfer corff strwythuredig a phenodol ar gyfer pobl sydd wedi profi strôc ochr yn ochr ag addysg ymarferol ar atal strôc sy’n cynorthwyo cyfranogwyr i fagu hyder, gwella swyddogaeth gorfforol a deall yn well sut i reoli eu hiechyd yn dilyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Mae’r fenter yn cydnabod nad yw adsefydlu’n diweddu pan fo’r claf yn gadael yr ysbyty. Yn hytrach, gall mynediad parhaus at y cymorth cywir yn y gymuned chwarae rhan hanfodol mewn gwella canlyniadau a lleihau’r tebygrwydd o strociau eraill, a gysylltir yn aml gydag anabledd mwy difrifol a mwy o anghenion gofal hirdymor.

Dywedodd Karl Jackson, Therapydd Ymgynghorol ym maes Strôc: “Mae’r grŵp ymarfer corff Bywyd Ar ôl Strôc wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl ar adeg hollbwysig yn eu hadferiad, pan y gall cael mynediad at weithgarwch corfforol ac addysg hygyrch yn gynnar wneud gwir wahaniaeth i ganlyniadau hirdymor. Nid yw adsefydlu’n dod i ben wrth i gleifion gael eu rhyddhau o’r ysbyty – mae pobl angen cyfleoedd parhaus i fagu hyder, gwella swyddogaeth gorfforol a dysgu’r wybodaeth sydd ei hangen i leihau eu risg o gael strôc yn y dyfodol.

“Mae atal strôc eilaidd yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau strociau eraill, sy’n aml yn fwy cymhleth ac yn fwy tebygol o achosi anabledd. Trwy gynorthwyo pobl i fynd i’r afael â ffactorau risg addasadwy megis anweithgarwch corfforol, pwysedd gwaed ac ymddygiadau ffordd o fyw, gallwn eu grymuso hwy i gymryd rôl actif yn eu hiechyd eu hunain tra hefyd yn lleihau effaith ehangach strôc ar iechyd a gofal cymdeithasol.

“Cryfheir y fenter hon gan ein partneriaeth agos gyda’r Tîm Atal Strôc, y mae ei arbenigedd a’i gyfranogiad yn hanfodol ar draws y llwybr strôc cyfan. Mae ei rôl wrth adnabod cyfranogwyr addas, atgyfnerthu negeseuon atal allweddol, a sicrhau parhad gofal yn gwella ansawdd a chyrhaeddiad y rhaglen. Mae cyd-weithio gyda’r tîm yn sicrhau bod cleifion yn derbyn arweiniad cyson, seiliedig ar dystiolaeth o’u cyfnod dan ofal acíwt hyd at adsefydlu cymunedol, gan gynorthwyo profiad di-dor sy’n canolbwyntio ar y claf.”

Dywedodd Trystan Pritchard, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach: “Mae hwn yn brosiect pwysig a ddylai gael buddion clir i gleifion. Mae’n rhan o’n dull ni o ddefnyddio arbenigedd ein staff a’n cyfleusterau cymunedol i helpu i wella iechyd pobl Gwynedd a lleihau pwysau ar wasanaethau GIG ar yr un pryd. Rydym yn awyddus iawn i groesawu pobl nad ydynt efallai fel arfer wedi cael mynediad at ein gwasanaethau a’u cynorthwyo i ddatblygu ffyrdd o fyw mwy actif.”