Yn ystod mis Mehefin cynhaliwyd sesiynau Diogelwch yn y dŵr ar gyfer Ysgolion Cynradd Gwynedd ar draws y sir.
Mae’r cynllun yn cael ei reoli gan y RNLI a Swim Wales yn genedlaethol er mwyn dysgu plant a phobl ifanc sut i cadw yn ddiogel mewn dŵr agored. Darparwyd y sesiynau am ddim trwy gyfraniadau Byw’n Iach, Plas Menai ac Urdd Gobaith Cymru.
Diolch i’r holl ysgolion am gymryd rhan, ein partneriaid arbennig, a’n athrawon nofio bendigedig!
Gwyliwch y fideo isod am grynodeb o’r digwyddiadau: