Dewis Iaith:

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2025

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2025

Ar nos Iau 4ydd o Ragfyr 2025, cynhaliwyd pedwaredd seremoni Gwobrau Chwaraeon Gwynedd yn Galeri Caernarfon.

Mae’r Gwobrau yn gyfle bob blwyddyn i ddathlu llwyddiannau unigolion a thimau eithriadol ar draws amrywiaeth o chwaraeon, gan ddathlu eu gwaith caled a dalent. Doedd eleni ddim yn eithriad, gyda gwobrau yn cael eu cyflwyno i grŵp rhyfeddol o athletwyr, hyfforddwyr a chyfranwyr sydd wedi cael effaith barhaol ar y tirlun chwaraeon yng Ngwynedd.

Dyma’r enillwyr holl gategorïau’r noson:

Enillwyr

Diolch i Morgan Jones am gyflwyno’r noson yn berffaith, Edwin a Dafydd am ein diddanu a Chofio Robin a Gogledd Cymru Actif am ei phartneriaeth. Diolch hefyd i bawb enwebodd a fynychodd y gwobrau a phawb cyflwynodd gwobr yn ystod y noson; fe wnaethoch chi helpu i’w gwneud hi’n noson fythgofiadwy.

Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr ac enwebiadau! Roedd yn bleser dathlu eich llwyddiannau gyda chi, ac edrychwn ymlaen at weld y pethau anhygoel y byddwch yn eu cyflawni yn y flwyddyn i ddod.

Os hoffech weld lluniau proffesiynol o’r noson, cliciwch yma.