Teitl y Swydd – Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer Corff ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
Hyd – Medi 2025 – Mai 2026 (9 Mis)
Rydym yn ystyried cyfnod secondiad am y rôl yma
Cymwysterau Hanfodol Angenrheidiol – Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2 + eraill
Cymwysterau Dymunol Angenrheidiol – Lefel 3 PT, Lefel 3 NERS + uwch
Gofynion Personol –
Cyfrifoldebau –
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Atgyfeirio Ymarfer Corff a Swyddogion Ymarfer Corff NERS eraill i gyfrannu at y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corff a gwella lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd pobl Gwynedd.
Bydd disgwyl i chi yn eich rôl fel Swyddog Ymarfer Corff addysgu, annog, cefnogi ac arwain defnyddwyr gwasanaeth at y math mwyaf priodol o weithgarwch corfforol.
Byddwch yn cynorthwyo gydag adolygu rhaglenni gweithgarwch personol, ymgynghoriadau cychwynnol, ymsefydlu ffitrwydd, cynnal adolygiadau cynnydd ac asesiadau cyn/ôl gyda chwsmeriaid sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Am unrhyw wybodaeth, ac ymholiad pellach, cysylltwch gyda: jamesleighrichards@bywniach.cymru