Mae Byw’n Iach Bangor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd.
Nofio yw ffocws allweddol y safle. Gyda dau bwll nofio, bwrdd plymio 1m, byrddau 3m a llwyfan 5m (yr unig un yng Ngogledd Cymru). Rydym hefyd yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion, yn ogystal ag ystod o wersi deifio.
Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i helpu i wella technegau deifio a diogelwch nofio, rydych yn siwr o fwynhau eich profiad nofio yn Byw’n Iach Bangor.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau Wattbike a phwysau rhydd.
Mae gennym ni 2x gwrt pêl-droed allanol 5 bob ochr gydag AstroTurf 3G.
Ffordd Y Garth,
Bangor,
Gwynedd
LL57 2SD
+
Llefydd ar gael i plant 4+ oed yn y gwersi nofio ar niferoedd o dyddiau gwahanol. Cysylltwch a’r ganolfan am fwy o wybodaeth.
Mi fydd yr ystafell ffitrwydd ar gau rhwng 08.00 – 17.00 ar Dydd Mercher 02/07/2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw ar y Biociruit.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.