Dewis Iaith:
Mae Byw’n Iach Bangor yn cynnig ystod eang o gyfleusterau ffitrwydd ar gyfer pob oed a gallu.
Mae nofio wrth galon y safle, gyda dau bwll, bwrdd plymio 1m, byrddau 3m a’r unig lwyfan plymio 5m yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion, ynghyd â rhaglen deifio strwythuredig gyda thechnoleg fodern i wella techneg a diogelwch.
Mae ein Hystafell Ffitrwydd yn cynnwys peiriannau Pulse, beiciau Wattbike a phwysau rhydd, yn ogystal â system glyfar Technogym BioCircuit sy’n darparu sesiynau personol wedi’u teilwra i’ch nodau. Gyda Technogym Checkup, caiff aelodau asesiad lles llawn i greu rhaglen hyfforddi bersonol a monitro cynnydd.
Mae gennym hefyd ddau gwrt pêl-droed 5 bob ochr 3G AstroTurf awyr agored.
Ffordd Y Garth,
Bangor,
Gwynedd
LL57 2SD
+
Rydym yn profi problem technegol dros dro sy’n effeithio ar dymheredd y gawodydd a’r dŵr poeth. Mae’r mater wedi’i adrodd a bydd yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl.
Bydd dim sesiwn nofio lon ar Ddydd Llun 22/06/26 20:00-21:00 oherwydd archeb preifat.
O 9:30 ar 23/06/26 bydd y rhwydwaith i lawr yn Byw’n Iach Bangor a ni fydd y gwasanaethau yma ar gael: System ffon, Wi-fi, Biocircuit a’r System Gyfrifiadurol. Bydd yr ystafell ffitrwydd, pwll nofio a stiwdio ar agor fel arfer a byddwn yn eich diweddaru pam mae’r gwaith wedi gorffen.
Ni fydd dosbarth ioga Lowri ymlaen ar 09/07/26.
Rydym yn profi problemau technegol gyda’r System Trin Aer, ac efallai y bydd tymheredd ystafell y pwll nofio ychydig yn uwch na’r arfer. Mae’r mater wedi’i adrodd a bydd yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl.
Bydd pwll nofio Byw’n Iach Bangor ar gau rhwng 03/08/26-07/08/26 oherwydd gwaith cynnal a chadw.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.