Mae Byw’n Iach Dwyfor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae nofio yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei gynnig. Mae gennym Bwll Nofio 25m, Pwll Nofio Bach a llithren ddŵr. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd. Pob un wedi ei gynllunio i helpu chi gadw’n heini ac iach. Mae gennym rywbeth ar gyfer pob gallu, o’r rhai sydd eisiau gwaith dwys, i’r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Mae gennym Ystafell Ffitrwydd llawn offer gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd yn ein canolfan hefyd.
Heol Hamdden,
Pwllheli,
Gwynedd
LL53 5PF
+
Oherwydd y gwaith sydd wedi cychwyn wrth ochr y pwll, bydd rhaid gau’r sleid tan i’r gwaith cael ei chwblhau. Byddwn yn eich diweddaru pryd fydd yn ail agor.
Bydd y sesiwn chwarae meddal i blant gydag anghenion ychwanegol yn symud o’r 06/06/26 i’r 13/06/26 oherwydd digwyddiad preifat.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.