Mae Byw’n Iach Penllyn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd. Mae nofio yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei gynnig, gyda Phwll Nofio 20 metr a phwll bach yn cynnwys sleid ar gael. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym hefyd yn cynnig dewis gwych o ddosbarthiadau ffitrwydd, pob un wedi’i gynllunio i’ch helpu i gadw’n heini ac iach. Mae gennym ni rywbeth ar gyfer pob gallu, o’r rhai sydd eisiau gweithgaredd dwys, i’r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.
Rydym yn falch o fod yn Ganolfan Hyfforddi Swyddogol HYROX, gan gefnogi aelodau i hyfforddi ar gyfer ras ffitrwydd ryngwladol HYROX.
Pensarn Road,
Y Bala,
LL23 7SR
+
Mi fydd y pwll nofio ar gau Dydd Sadwrn 18/04/2026 rhwng 11:00 – 12:00
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.