Wrth gwrs! Dilynwch y fideo isod i ddilyn canllawiau ar sut i ymuno â Byw’n Iach ar-lein
Oes!:
Mae’n bosibl ymuno â’n cynlluniau Debyd Uniongyrchol ar-lein.
Gallwch ymuno â’r cynlluniau canlynol ar-lein
Cliciwch ar y pecynnau uchod am ragor o wybodaeth.
I ymuno â’r cynllun, dilynwch y ddolen hon: Ymunwch Ar-lein
I archebu lle ar gyfer eich plentyn/plant dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: Cyfarwyddiadau
Sut i archebu a thalu am fy sesiynau ar-lein yn gyffredinol: Cyfarwyddiadau
Ap Byw’n Iach yw canolbwynt ein holl wybodaeth, diweddariadau, amserlenni, digwyddiadau a hysbysiadau.
Gwybodaeth Cwsmer:
Cliciwch ar y llun isod i lawrlwytho’r ap ar eich ffôn
Sut i ddefnyddio’r app? Ewch draw i dudalen YouTube Byw’n Iach i wylio fideos a sut i ddefnyddio’r ap: Byw’n Iach YouTube
Sut i lawrlwytho’r app? https://download-mobilepro.myfitapp.com/a/27SY?p=4
Mae ein pwll ar agor i bawb yn ôl amserlen y ganolfan.
Polisi mynediad nofio i blant o dan 8 oed eich canolfan leol: Darllenwch yma
Mae’n bosibl i rai nad ydynt yn aelodau, ac i ddefnyddwyr achlysurol ddefnyddio’r pwll nofio; mae’r canlynol ar gael:
Tocyn Nofio Teulu: 2 + 2 *yn cynnwys chwaraeon raced
Talu wrth fynd: Tocyn nofio unigol
Nid oes rhaid archebu ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus. Cyfeiriwch at ein gwefan am y ffioedd a’r taliadau presennol: Prisiau
Mae Byw’n Iach yn ymdrechu i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teimlo’n gyfforddus yn ein pyllau nofio drwy gael cawod cyn nofio a gwisgo dillad nofio glân. Rydym yn awyddus i gwsmeriaid deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio ein pyllau ac ymfalchïo mewn bod yn ddarparwr hamdden i bawb. Gweler isod ein canllaw dillad nofio i helpu i’w wneud yn gliriach.
Mae’n rhaid i ddillad nofio fod yn addas ac yn briodol bob amser. Dyma rheolau ein pyllau nofio o ran dillad addas: Darllenwch yma
Ein cynllun passbort yw cynllun sydd yn rhoi mynediad i bobl ifanc 11-15 oed i’r ystafelloedd ffitrwydd, darllenwch fwy am y cynllun yma: PASBORT FFITRWYDD 11 – 15 OED
Mae ein telerau ac amodau yn nodi y gall unigolion nad ydynt yn aelodau archebu hyd at 10 diwrnod ymlaen llaw, wyneb yn wyneb neu drwy ffonio a thalu’r ffi priodol i’r rhai nad ydynt yn aelodau. Gallwch ffonio i archebu a thalu drwy gysylltu â’ch canolfan leol.
Mae aelodaeth dros dro yn cynnig pris gostyngol ar weithgareddau.
Tocyn Wythnosol: Yn rhoi mynediad i’n pyllau, campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a llysiau chwaraeon raced unrhyw nifer o weithiau, ar draws ein holl safleoedd yng Ngwynedd am 7 diwrnod yn olynol. Cynigir cyflwyniad byr i’r peiriannau yn y gampfa/ystafell pwysau fel rhan o’r aelodaeth wythnosol, neu os ydych yn hyderus, gallwch lofnodi datganiad atebolrwydd.
Tocyn Diwrnod: Yn rhoi mynediad i’n pyllau, campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a llysiau chwaraeon raced unrhyw nifer o weithiau, ar draws ein holl safleoedd yng Ngwynedd am 1 diwrnod yn unig.
Gellir wneud hyn ar-lein: Ymunwch
Gellir gwneud archebion ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gydag aelodaeth neu bas dilys. Gallwch hefyd alw heibio.
Yn ôl ein telerau ac amodau, mae angen rhybudd o 1 mis arnom i addasu aelodaeth.
Efallai y gallwch rewi eich aelodaeth dros dro am hyd at 6 mis. Dim ond am y rhesymau canlynol:
Salwch difrifol
Anafiad difrifol
Beichiogrwydd
Diswyddiad
Efallai y bydd angen dogfennau ategol i gefnogi’r cais. Cysylltwch am ffurflen yn eich canolfan lleol.
Rydym yn cynnig y gostyngiadau canlynol:
Aelodaeth Gorfforaethol: Mwy o wybodaeth Yma
16–24
11–18
60+
Gellir ymuno ar pecynau disgownt yma ar-lein: Ymunwch