Dewis Iaith:
Beth yw’r Portal Cartref?
Dyma system sy’n galluogi rhieni/gwarcheidwaid gael mynediad at adroddiad cynnydd eu plentyn yn y gwersi nofio drwy’r Portal Cartref ar-lein. Byddwn yn asesu canlyniadau Cynllun Dysgu Nofio Cymru yn barhaus wrth i’ch plentyn fynychu gwersi. Wrth i’ch plentyn ddatblygu trwy’r rhaglen, bydd eu cyflawniadau’n cael eu gwobrwyo â gwobrau gwahanol e.e. bathodynnau a thystysgrifau.
Er mwyn rhoi amser i’r system ddiweddaru, gofynnwn yn garedig i chi beidio â holi’r staff am ddiweddariadau wythnosol. Mae angen gadael hyd at 48 awr nes bod y system yn cael ei ddiweddaru.
Bydd disgyblion sy’n barod i symud ymlaen i’r ton nesaf yn cael eu nodi ar y system, a gwneir pob ymdrech i ddod o hyd i le iddynt. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu lle, ac mewn amgylchiadau o’r fath bydd y plentyn yn aros yn ei wers bresennol nes y bydd lle ar gael.
Mae’r athrawon nofio yn defnyddio tablet symudol yn ystod y gwersi nofio i gael mynediad i’r system gefndirol ac i diweddaru gwybodaeth a chynnydd unigolion. Dyma’r gofrestr ac lle mae cynyddu yn cael ei nodi yn erbyn meini prawf Nofio Cymru, sy’n ofynnol i gwblhau’r cam perthnasol.
Bydd pob rhiant sydd â phlentyn mewn gwersi nofio yn derbyn e-bost i gofrestru yn ystod y wers nofio. Anfonir yr e-bost i’r cyfeiriad e-bost sydd wedi’i gofrestru ar gyfrif y plentyn. Bydd yr e-bost yn cael ei anfon gan cyrsiaucourse.notifacation@bywniach.cymru, felly cadwch lygad amdano a gwiriwch eich blwch sothach neu ffolder sbam os nad yw’n ymddangos yn eich mewnflwch. Os nad ydych wedi derbyn e-bost, mae’n bosibl bod angen diweddaru eich manylion ar y system. Os felly, cysylltwch â’r dderbynfa. Byddwch yn derbyn yr ebost isod, yna dilynwch y linc ar yr ebost.

Yna, bydd angen i chi fewnbynnu naill ai dyddiad geni neu god post y plentyn sy’n derbyn y gwersi nofio.
Ewch ymlaen i’r dudalen nesaf a llenwch yr adran ‘MANYLION EICH CYFRIF’. Ar ôl cwblhau hyn, bydd cyfrif eich plentyn wedi’i sefydlu.
Ar y dudalen flaen, bydd blwch ‘+ YCHWANEGU AELOD’. Cliciwch ar hwn.

Ar y dudalen nesaf, bydd gofyn i chi fewnbynnu Rhif Aelod y plentyn (mae’r rhif hwn i’w gael ar gefn y cerdyn aelodaeth ac ac yn cychwyn gyda GN). Yna, bydd angen i chi fewnbynnu naill ai dyddiad geni neu gôd post y plentyn sy’n cael ei ychwanegu.
Os yw’r wybodaeth a fewnbynnwyd gennych yn gywir, bydd yr ail aelod yn cael ei ychwanegu ar y dudalen flaen.
