Dewis Iaith:

Pethau i wneud yng Ngwynedd

Pethau i wneud yng Ngwynedd

Chwilio am y gweithgareddau perffaith i’r teulu cyfan yn ystod eich gwyliau yng Ngogledd Cymru? Byw’n Iach yw’r lle i chi!

O anturiaethau awyr agored, i weithgareddau dan do ar gyfer y diwrnodau glawog, mae ein 11 canolfan ledled Gwynedd yn cynnig cyfleusterau i chi ar gyfer diwrnod perffaith yng Ngogledd Cymru – dim bwys beth yw’r tywydd a’ch cyllideb!

Bargeinion Teuluol a Chynigion Gwyliau

Tocyn Diwrnod Teulu

Arbedwch ar weithgareddau gyda’n tocyn diwrnod i’r Teulu!

Mae’r tocyn yn ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i rywbeth i bob aelod o’r teulu ei fwynhau. Mae’n cynnwys 2 oedolyn a hyd at 4 o blant (16 oed neu iau), ac yn rhoi mynediad i’r gweithgareddau canlynol am y diwrnod cyfan:

  • Nofio*
  • Tenis fwrdd
  • Sboncen
  • Tenis
  • Badminton

Gallwch brynu eich tocyn heddiw yn unrhyw ganolfan Byw’n Iach.

£16.10 i aelodau / £21.50 i di-aelodau 

*Nid oes pwll nofio ym mhob safle.


12 diwrnod o haf

12 diwrnod am £12!

Rhwng 16 a 24 oed ac eisiau cadw’n heini yn ystod eich gwyliau yng Ngwynedd? Mae ein cynnig 12 diwrnod o haf yn rhoi mynediad diderfyn i chi i’r gweithgareddau canlynol am 12 diwrnod yn olynol yn ystod yr haf am ddim ond £12:

  • Nofio
  • Chwaraeon Raced
  • Ystafelloedd Ffitrwydd
  • Ystafelloedd Bwysau
  • Dosbarthiadau Ffitrwydd

Ar gael ym mhob canolfan Byw’n Iach rhwng 01/06/26 – 30/09/26

Prynwch eich tocyn ar-lein heddiw: Cliciwch yma

Neu galwch heibio’r ganolfan!


Tocynnau Diwrnod neu Wythnos

Gwariwch llai ar weithgareddau gyda’n tocynnau diwrnod neu wythnos!

Mae ein tocynnau diwrnod ac wythnos yn ei gwneud hi’n hawdd ac yn fforddiadwy i hyfforddi tra byddwch ar eich gwyliau yng Ngogledd Cymru. Mae’r tocynnau’n rhoi mynediad diderfyn i chi i’r gweithgareddau canlynol + sesiwn anwythiad AM DDIM yn y gampfa:

  • Nofio
  • Ystafelloedd Ffitrwydd + Pwysau
  • Dosbarthiadau Ffitrwydd
  • Beics Trydan
  • Chwaraeon Raced

Nid yw pob gweithgaredd ar gael ym mhob canolfan, ond byddwch yn gallu defnyddio unrhyw un o’r 11 canolfan gyda’ch tocyn, gan roi mwy o hyblygrwydd i chi yn ystod eich arhosiad yng Ngwynedd!

Prynwch eich tocyn ar-lein heddiw: Cliciwch yma

Neu galwch heibio’r ganolfan!

Tocyn diwrnod: £12.90 / Tocyn wythnos: £21.50

 

Gweithgareddau dan-do

Pyllau Nofio

Y gweithgaredd perffaith ar gyfer ddiwrnod glawog!

Mae ein pyllau nofio lleol yn cynnig y gweithgaredd dan do perffaith i deuluoedd, cyplau ac ymwelwyr. Os ydych eisiau sesiwn hwyl gyda’r plant neu eisiau nofio i ymlacio, mwynhewch amgylchedd cynnes a chroesawgar ar y dyddiau glawog! Mae pyllau nofio ar gael yn y canolfannau Byw’n Iach canlynol:

  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
  • Byw’n Iach Bangor (Byrddau plymio ar gael)
  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli (Llithren dŵr ar gael)
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
  • Pwll Nofio Bro Ffestiniog
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala (Llithren dŵr ar gael)
  • Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn

Mae archebu yn hawdd. Cysylltwch y ganolfan, neu archebwch ar-lein: Cliciwch yma

Cliciwch yma i weld ein amserlenni nofio.


Gweithgareddau gwyliau ysgol ar gyfer plant

Haf o Hwyl 2026!

Dros wyliau’r ysgol, rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant o bob oed, gan ei gwneud hi’n hawdd diddanu’r rhai bychan ar y diwrnodau glawog yn ystod eich ymweliad â Gogledd Cymru. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys:

  • Chwarae meddal (0-5 oed)
  • Sesiynau chwarae meddal i plant gydag anghenion ychwanegol
  • Campau chwaraeon (5-11 oed)
  • Sesiynau pasbort ffitrwydd yn yr ystafell ffitrwydd (11-15 oed)
  • Mynediad i dosbarthiadau ffitrwydd (11-18 oed)
  • Nofio am ddim gyda cherdyn Byw’n Iach (0-16 oed)
  • Sesiynau inflatables pwll (8-11 oed)
  • Gwersi nofio dwys
  • Gwersi nofio swigod (0-3 yrs)

Mae archebu yn hawdd. Cysylltwch y ganolfan, neu archebwch ar-lein: Cliciwch yma

Cliciwch yma ar gyfer fwy o wybodaeth ac amserlenni.

 

Gweithgareddau awyr agored

Beics trydan

Ffordd ecogyfeillgar o ymweld â Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri!

Mae Byw’n Iach, yn cynnig beiciau trydan i’w llogi drwy gydol y flwyddyn i’r rhai 16 oed a hŷn. Mae ein beics trydan yn cynnig ffordd hwyliog a diymdrech o fwynhau’r awyr agored ac maent ar gael i’w llogi o’r canolfannau canlynol:

  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
  • Byw’n Iach Bangor
  • Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala

Cliciwch yma i weld y llwybrau mae Eryri Mynyddoedd ac Môr yn awgrymu!

£13.00 (£9.80 consesiwn) i aelodau / £16.30 (£12.30 consesiwn) i di-aelodau


Cynllun Chwarae Allan

Chwarae allan am ddim i blant a phobl ifanc!

Dros y Gwyliau ysgol, mae Byw’n Iach yn caniatáu i blant a phobl ifanc lleol defnyddio cyrtiau a chaeau tu allan yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a thu allan i sesiynau sydd wedi cael eu bwcio gan gwsmeriaid.

Mae croeso i rieni a gwarchodwyr chwarae gyda’u plant, felly mae’n weithgaredd fforddiadwy perffaith i’r teulu cyfan!

Galwch heibio i dderbynfa unrhyw ganolfan Byw’n Iach i ofyn am fynediad i’r cyrtiau – mae mor syml â hynny!


Llwybrau Ffitrwydd Teuluol

Y ffordd berffaith o gadw’n iach a threulio amser fel teulu am ddim!

Wrth gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd ac Actif Gogledd Cymru, mae Byw’n Iach yn falch ein bod yn gallu cynnig Llwybrau Ffitrwydd Teulu dros Wynedd!

Mae 13 o lwybrau ar gael ar draws y sir, yn amrywio o lwybrau cerdded arfordirol Gogledd Cymru i anturiaethau coedwig, gan ganiatáu ichi archwilio pob cornel o Barc Cenedlaethol Eryri a thu hwnt!

Genwch y fwyaf o’r tywydd braf – Cliciwch yma  i ddarllen fwy am y llwybrau

 

Cyfleusterau ddefnyddiol

Cawodydd

Yn ein 7 canolfan gyda phyllau nofio, mae cawodydd ar gael i’w defnyddio. Perffaith os ydych chi’n gwersylla’n lleol, neu os oes angen cawod sydyn ar ôl yr holl weithgareddau antur!

  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
  • Byw’n Iach Bangor
  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
  • Pwll Nofio Bro Ffestiniog
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala
  • Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn

£2.50 (£1.90 consesiwn) i aelodau / £3.10 (£2.40 consesiwn) i di-aelodau


Sawna

Ymlaciwch ar ol ddiwrnod hir o antur! Mae sawna ar gael yn:

  • Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn
  • Byw’n Iach Pafiliwn, Abermaw
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala

£6.70 (£5.10 consesiwn) i aelodau / £8.90 (£6.70 consesiwn) fi di-aelodau

Cliciwch yma i weld yr amserlenni ac oriau agor.

 

Cynlluniwch eich ymweliad

Barod i cychwyn cynllunio eich ymweliad? Gwelwch holl yr amserlenni ar lein, galwch heibio ganolfan Byw’n Iach, neu archebwch ar-lein!

Angen fwy o gymordd? Cysylltwch a ni!