Padel Byw'n Iach Arfon
Chwilio am weithgaredd newydd i drio gydag eich ffrindiau? Rhowch gynnig ar un o’r campau sy’n tyfu cyflymaf ym Mhrydain heddiw yn Byw’n Iach Arfon – mae’n berffaith ar gyfer pob oedran, gallu a lefel sgil!

Beth yw Padel?
Mae padel yn gamp raced gyffrous a chymdeithasol sy’n cyfuno rheolau a chwarae rhwyd tenis ag amgylchedd caeedig sboncen. Mae bob amser yn cael ei chwarae mewn dwbl ar gwrt caeedig wedi’i amgylchynu gan waliau gwydr a ffens fetel.
Yn wahanol i denis, gellir chwarae’r bêl oddi ar y waliau, gan ychwanegu agwedd dactegol unigryw at y gêm. Mae’r gamp yn defnyddio racedi padel solet a phêl debyg i bêl denis, ond gyda phwysau ychydig yn llai.
Mae padel angen llai o bŵer a rhedeg na thenis traddodiadol, gan ddibynnu mwy ar strategaeth, lleoli, a gwaith tîm. Un o’r pethau gorau am padel yw ei fod yn hawdd dysgu, felly gall pobl o bob lefel sgil ac oedran chwarae gyda’i gilydd ar yr un cwrt! P’un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n chwaraewr chwaraeon raced profiadol, mae padel i chi!
Beth mae Byw'n Iach Arfon yn cynnig?
- x1 cwrt Padel awyr agored wedi’i oleuo
- Holl yr offer sydd angen: Mae peli a racedi ar gael i’w benthyg
- Amgylchedd diogel i bob oed a gallu rhoi cynnig ar Padel
- Cawodydd ac ystafelloedd newid ar gyfer ar ôl eich gêm
- Chwarae fforddiadwy – gall aelodau Debyd Uniongyrchol chwarae heb unrhyw gost ychwanegol!
Codwch eich raced a chwaraewch – archebwch heddiw!
I archebu eich lle, cysylltwch â’r ganolfan ar 01286 676945
Neu os oes gennych chi gyfrif Byw’n Iach gallwch chi archebu eich lle ar-lein neu ar ap Byw’n Iach!