Dewis Iaith:

Byw’n Iach yn Gosod System Dal Dŵr Arloesol yn Byw’n Iach Bro Dysynni

Byw’n Iach yn Gosod System Dal Dŵr Arloesol yn Byw’n Iach Bro Dysynni

Mae Byw’n Iach wedi cymryd cam sylweddol tuag at wella cynaliadwyedd amgylcheddol yn Byw’n Iach Bro Dysynni drwy osod system dal dŵr fodern yn ystafell beiriannau’r pwll nofio. Mae’r prosiect yn bosib diolch i gyllid gan gronfa Cynaliadwyedd mewn Chwaraeon Admiral / WSA a Chronfa Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd (Gronfa Gwynedd Werdd).

Mae’r system newydd yn dal 15m³ o ddŵr gwastraff a gynhyrchir wrth lanhau hidlwyr pyllau nofio—dŵr a fyddai wedi cael ei golli i’r rhwydwaith carthffosiaeth o’r blaen.Yn lle hynny, mae’r dŵr yn cael ei drin, ei lanhau, a’i ddychwelyd yn ddiogel i’r pwll nofio.

Drwy weithredu’r dechnoleg yma, mae’r ganolfan yn cyflawni sawl budd cynaliadwyedd allweddol:

  • Lleihau defnydd dŵr
  • Costau gwresogi is
  • Lleihau ddefnydd o gemegau pwll
  • Ôl-troed carbon cyffredinol llai

Tynnodd Daniel Joyce, Rheolwr Ardal Byw’n Iach, sylw at werth hirdymor yr uwchraddio:

“Bydd y system newydd hon o fudd i’r ganolfan a’r amgylchedd drwy leihau costau rhedeg, lleddfu’r pwysau ar ein rhwydwaith carthffosiaeth, a lleihau ôl troed carbon y ganolfan. Mae’r gosodiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Byw’n Iach i gyfrifoldeb amgylcheddol, effeithlonrwydd gweithredol a chynaliadwyedd ar draws ein chyfleusterau.”