Dewis Iaith:
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, eich canolfan Byw’n Iach agosaf fydd Byw’n Iach Bangor. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol Bangor, gyda dim ond 10 munud o gerdded o Pontio a’r Undeb! Ond beth allwn ni ei gynnig i chi?
Mae’r cyfleusterau a’r gweithgareddau yn Byw’n Iach Bangor yn rhai o’r gorau yn yr ardal ar gyfer cadw’n heini ac yn iach yn ystod eich amser yn byw ym Mangor. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ar gyfer yr amserlen lawn, cliciwch yma!
Yn Byw’n Iach, rydym yn cynnig aelodaeth holl gynhwysol am bris gostyngedig i fyfyrwyr sydd rhwng 16-24 oed.
Am ddim ond £32.20 y mis, byddwch yn cael mynediad diderfyn i’r canlynol:
+ Anwythiad ystafell ffitrwydd am ddim!
Ymunwch ar-lein, neu ewch i’r dderbynfa i gofrestru heddiw!
*Nid yw chwaraeon raced ar gael yn Byw’n Iach Bangor, ond, gyda’r aelodaeth byddwch yn gallu defnyddio unrhyw un o’n 11 canolfan arall ledled Gwynedd. Cliciwch yma am rhestr llawn o’r ganolfannau.
Eisiau rhoi cynnig ar y cyfleusterau cyn ymuno? Galwch heibio i drio ein gweithgareddau wythnos y glas AM DDIM!

Mae ymarfer corff rheolaidd yn wych ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol. Mae’n wych i’ch cyhyrau ac esgyrn, gall leihau’ch risg o glefyd cronig ac iselder tra hefyd yn gwella’r cof. Mae ymarfer corff fel dosbarthiadau ffitrwydd neu nofio yn weithgareddau cymdeithasol gwych, a gallant fod yn ffordd wych o ddod i adnabod eich cymuned leol newydd a gwneud ffrindiau!
Yn Byw’n Iach, rydym yn gwneud ymarfer corff mor hawdd a chyfleus â phosibl! Ymunwch â ni a mwynhewch:
Rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych – cysylltwch â ni heddiw a dechreuwch eich taith ffitrwydd!
Dewch o hyd i ni ar Google Maps neu defnyddiwch tarnished.imparting.spectacle ar What3Words.
Gwyliwch y fideo yma am gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd ni o Pontio!