Dewis Iaith:

Bywyd myfyrwyr yn Byw’n Iach

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, eich canolfan Byw’n Iach agosaf fydd Byw’n Iach Bangor. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol Bangor, gyda dim ond 10 munud o gerdded o Pontio a’r Undeb! Ond beth allwn ni ei gynnig i chi?

Gweithgareddau a Cyfleusterau

Gweithgareddau a Cyfleusterau

Mae’r cyfleusterau a’r gweithgareddau yn Byw’n Iach Bangor yn rhai o’r gorau yn yr ardal ar gyfer cadw’n heini ac yn iach yn ystod eich amser yn byw ym Mangor. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ystafell Ffitrwydd
  • Amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, sydd yn addas ar gyfer pob gallu a lefel ffitrwydd
  • Technogym Biociruit
  • Pwll nofio 25m x 12.5m, sydd yn cynnig nofio a plymio cyhoeddus, nofio lon, gwersi nofio a plymio i oedolion ac aerobeg dŵr!
  • Byrddau plymio 1m, 3m & 5m
  • Beics trydan

Ar gyfer yr amserlen lawn, cliciwch yma!

Aelodaeth Myfyrwyr

Aelodaeth Myfyrwyr

Yn Byw’n Iach, rydym yn cynnig aelodaeth holl gynhwysol am bris gostyngedig i fyfyrwyr sydd rhwng 16-24 oed.

Am ddim ond £32.20 y mis, byddwch yn cael mynediad diderfyn i’r canlynol:

  • Dosbarthiadau ffitrwydd
  • Ystafell ffitrwydd a Biocircuit
  • Nofio a plymio cyhoeddus
  • Gwersi nofio a plymio i oedolion
  • Beics trydan
  • Chwaraeon raced*

+ Anwythiad ystafell ffitrwydd am ddim!

Ymunwch ar-lein, neu ewch i’r dderbynfa i gofrestru heddiw!

*Nid yw chwaraeon raced ar gael yn Byw’n Iach Bangor, ond, gyda’r aelodaeth byddwch yn gallu defnyddio unrhyw un o’n 11 canolfan arall ledled Gwynedd. Cliciwch yma am rhestr llawn o’r ganolfannau.

Wythnos Y Glas 2026: 21/09/26-27/09/26

Eisiau rhoi cynnig ar y cyfleusterau cyn ymuno? Galwch heibio i drio ein gweithgareddau wythnos y glas AM DDIM!

Manteision ymuno â Byw'n Iach

Manteision ymuno â Byw’n Iach

Mae ymarfer corff rheolaidd yn wych ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol. Mae’n wych i’ch cyhyrau ac esgyrn, gall leihau’ch risg o glefyd cronig ac iselder tra hefyd yn gwella’r cof. Mae ymarfer corff fel dosbarthiadau ffitrwydd neu nofio yn weithgareddau cymdeithasol gwych, a gallant fod yn ffordd wych o ddod i adnabod eich cymuned leol newydd a gwneud ffrindiau!

Yn Byw’n Iach, rydym yn gwneud ymarfer corff mor hawdd a chyfleus â phosibl! Ymunwch â ni a mwynhewch:

  • Dim ffi ymuno
  • Staff gwybodus a chymwys
  • Archebu hawdd trwy ap Byw’n Iach
  • Defnydd o 12 canolfan Byw’n Iach ledled Gwynedd
  • Amgylchedd cymdeithasol a chyfeillgar

Cysylltwch â ni!

Rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych – cysylltwch â ni heddiw a dechreuwch eich taith ffitrwydd!

Dewch o hyd i ni ar Google Maps neu defnyddiwch tarnished.imparting.spectacle ar What3Words.

Gwyliwch y fideo yma am gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd ni o Pontio!