Ystafell Ffitrwydd
Rydym yn cynnig rhai o gyfleusterau gorau yn yr ardal i’ch gynorthwyo i fwynhau bywyd bywiog ac iach. Mae’r offer yn y ganolfan yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ac mae staff cymwys a profiadol ar gael i gynnig cyngor i chi.
Mae ein hystafelloedd ffitrwydd i gyd yn cynnwys offer Pulse©, gyda sgriniau gweledol integredig ar gyfer adloniant wrth i chi ymarfer. Mae amrywiaeth eang o beiriannau hyfforddi pwysau a dewis o bwysau rhydd.
Mae’r offer yn addas ar gyfer pob math o weithfeydd yn cynnwys cardio, cryfder ac dygnwch.
Mae gennym nifer o Beiriannau Ffitrwydd cynhwysol gyda seddi symudol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a gyda lliwiau cyferbyniol a mannau wyneb cyffyrddol ar gyfer chyfranogwyr â nam ar eu golwg.
Mae’n rhaid cael anwythiad i’r Ystafell Ffitrwydd – am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r dderbynfa eich canolfan lleol.
Am fwy o wybodaeth am yr ystafell ffitrwydd yn eich canolfan leol, ewch yma:
Canolfannau