Dewis Iaith:

Athletau Dan Do Ysgolion 2025

Athletau Dan Do Ysgolion 2025

Dros yr wythnosau diwethaf, bu staff Byw’n Iach yn brysur iawn yn cynnal cystadlaethau Athletau Dan Do i Ysgolion Cynradd Gwynedd. Trwy gydol y gystadleuaeth, cafodd 414 plant cyfnod allweddol 2, o 44 ysgol yn ardaloedd Dwyfor, Meirionnydd ac Arfon y cyfle i gystadlu.

Ar Ddydd Iau 03/04/25, cafodd y rownd derfynol o’r gystadleuaeth ei chynnal yn ganolfan Brailsford ym Mangor.

Yn y rownd derfynol, bu 117 o blant o 13 ysgol yn cystadlu, gyda phob un yn cael cyfle i ddangos ei sgiliau mewn un gweithgaredd maes, a dau weithgaredd trac. Roedd gweithgareddau Maes yn cynnwys Taflu Pêl, Naid hir o sefyll, Gwaywffon Feddal a Neidio Cyflym, ac roedd y chwaraeon trac yn cynnwys Ras Cyfnewid, Ras Paarlauf a Ras Rhwystrau.

Llongyfarchiadau i Ysgol Godre’r Berwyn am ennill y darian eto eleni, a llongyfarchiadau hefyd i Ysgol y Garnedd ac Ysgol Hendre doth yn ail a trydydd yn y gystadleuaeth! Da iawn i bawb fu’n cystadlu. Roedd hi’n gystadleuaeth anhygoel a braf oedd gweld cymaint o dalent.

Os yw eich plentyn wedi mwynhau gweithgareddau yn ystod y gystadleuaeth Athletau Dan Do, pam ddim mynychu un o sesiynau Blocs Cychwyn Byw’n Iach? Sesiynau Athletau Cymru i blant yw Blocs Cychwyn sydd yn gweithio trwy basbort o sgiliau amrywiol. Bydd plant yn dysgu’r sgiliau symud allweddol sydd eu hangen ar gyfer bywyd mewn chwaraeon, mewn amgylchedd diogel a chadarnhaol, trwy gemau sydd wedi’u cynllunio i ddysgu sylfeini rhedeg, neidio a thaflu i blant.

Cadwch lygaid allan ar gyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am sesiynau newydd sydd i ddod yn fuan! Mae fwy o wybodaeth am cynllun Blocs Cychwyn ar gael yma: Darllenwch fwy!