Dewis Iaith:

Cryfach gyda’n gilydd yn ystafell ffitrwydd newydd Byw’n Iach Dwyfor

Cryfach gyda’n gilydd yn ystafell ffitrwydd newydd Byw’n Iach Dwyfor

Ym mis Ebrill 2026, agorodd Byw’n Iach Dwyfor ddrysau ei ystafell ffitrwydd newydd. Mae’r cyfleusterau newydd yn rhoi iechyd a ffitrwydd cymuned Pwllheli, Llŷn ac Eifionydd fel ein prif ffocws, gan gynnig amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb. Mae’r offer Biocircuit newydd yn cynnig cyfleoedd ffitrwydd cynhwysol a hygyrch ar gyfer pob lefel o ffitrwydd, heb adael neb tu ôl. 

Dywedodd Carys Ferris, rheolwr ardal y canol:

 

“Rydwyf yn gyffroes iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i ddangos y gym newydd i’n holl gwsmeriaid presennol a hefyd cwsmeriaid newydd.  Hyderaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gymuned gyfan, offer ar gyfer pawb o pob lefel a gallu”

 

Beth mae’r cyfleuster newydd yn cynnig?

  • Offer hygyrch ac yn gynhwysol ar gyfer pob lefel ffitrwydd
  • Offer ansawdd uchel
  • Staff gwybodus a phrofiadol
  • Amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd
  • Amgylchedd diogel a chroesawgar i bob cwsmer
  • Ffitrwydd fforddiadwy

Ystafell ffitrwydd a bwysau

Offer newydd, ardal aml bwrpas, perffaith ar gyfer ymarfer bob dydd, paratoi at sesiynau HYROX, trio pethau newydd a llawer mwy. Gwelwch rhestr llawn o’r offer yma.

Biocircuit

Biocircuit – Mae Biocircuit yn system hyfforddi cylchol gan Technogym sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (Ai) i ddarparu sesiwn hyfforddi unigol dan arweiniad y peiriant. Diolch i’r dechnoleg, mae’r peiriannau’n addasu gwrthiant, cyflymder a’ch amser gwaith/ysgafnu yn awtomatig i’ch proffil ffitrwydd.  Hyfforddiant personol heb y gost uchel!

Darllenwch fwy yma

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Mae amrywiaeth o dosbarthiadau ffitrwydd ar gael yn yr ganolfan. Gwelwch yr amserlen cyfan yma.

Barod i rhoi cynnig arni? Ymunwch ar-lein heddiw: Cliciwch yma