Dewis Iaith:

Dewch i adnabod Gina Moore: ysbrydoliaeth leol sy’n cystadlu yn Hyrox Byw’n Iach

Dewch i adnabod Gina Moore: ysbrydoliaeth leol sy’n cystadlu yn Hyrox Byw’n Iach

Ar ôl dioddef Rhwyg Cyflawn o’r Plecsws Braich (Complete Brachial Plexus Evulsion) mewn damwain car yn 2017, cafodd braich chwith Gina Moore ei pharlysu’n llwyr o’i hysgwydd i lawr. Yn ei hymdrech i brofi nad oes angen i ffitrwydd fod yn gymhleth nac yn wahaniaethol, gwelsom ni hi’n cystadlu yng nghystadleuaeth Hanner Hyrox Byw’n Iach ym mis Mehefin, ac eto yn ddiweddar yn gystadleuaeth mis Tachwedd gyda’i ferch Sian.

Pam mae ffitrwydd yn bwysig i chi?
Mae ffitrwydd mor bwysig i mi, yn feddyliol ac yn gorfforol. Rydw i wastad wedi mwynhau rhedeg, ac mae’r sling addasol wedi fy ngalluogi i barhau yn dilyn fy anaf. Mae’n gwneud byd o les i’m meddwl, ac rwyf wrth fy modd yn yr awyr iach. Mae hyfforddiant cryfder hefyd yn fy ngalluogi i gywiro anghydbwysedd sy’n deillio o’m hanaf, ac i gryfhau cyhyrau craidd fy nghorff.

Pam Hyrox?
I gychwyn, roedd gen i ofn trio Hyrox, ac i ddweud y gwir, roeddwn i’n amau fy ngallu i gystadlu mewn rhai o’r gorsafoedd. Gyda chymorth a chefnogaeth llawer, rydym wedi addasu’r gorsafoedd i weddu i’m hanghenion. Dyna pryd y sylweddolais y gallwn roi cynnig arni!

Sut ydych chi’n paratoi ar gyfer cystadleuaeth Hyrox?
Rwy’n ceisio mynd allan i redeg o leiaf dair gwaith yr wythnos. Mae hyn yn dod yn naturiol iawn i mi, ac gan ein bod yn treulio bron hanner y gystadleuaeth yn rhedeg, rwy’n ei ystyried yn rhan hanfodol o fy hyfforddiant. Mae dosbarthiadau Hyrox bore Iau yn Dwyfor wedi bod yn hollbwysig yn fy nhaith tuag at Hyrox; dyma lle sylweddolais y gallai hyn fod yn rhywbeth rwy’n gallu ei wneud.

Sut mae Byw’n Iach yn eich cefnogi i gadw’n heini?
Mae’r Biocircuit newydd yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor wedi bod yn ddatblygiad arwyddocaol i mi. Cyn mis Mai 2026, doeddwn i erioed wedi cael llawer o ddiddordeb mewn mynd i’r ystafell ffitrwydd, gan nad oeddwn yn siŵr ble i ddechrau na beth i’w wneud. Mae’r Biocircuit yn fy ngalluogi i wneud ymarferion cryfhau yn rheolaidd, heb fod angen cynllun na threfn benodol. Mae’n anhygoel – rwy’n ei garu!

Beth yw eich nodau ffitrwydd?
Ar hyn o bryd, fy nodau yw aros mor ffit a chryf ag y gallaf. Ar ôl cwblhau Marathon Llundain yn 2025, a’r SheUltra yn 2024 – mae’r profiadau unigryw hyn wedi dangos i mi y gallaf wneud unrhyw beth rwy’n rhoi fy meddwl ato!

Rwyf bob amser yn annog pawb, a phwy bynnag, i roi cynnig arni – dros y blynyddoedd, rwyf wedi dysgu nad yw ffitrwydd yn gymhleth nac yn gwahaniaethol, ac mae’r manteision yn hynod werth chweil.

 

Byddwch fwy fel Gina, profwch eich cryfder a’ch penderfyniad!
Mae archebu ar agor ar gyfer ein digwyddiad Hanner Hyrox ym mis Chwefror; cliciwch yma i archebu.

Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol neu anableddau yr hoffech eu trafod, cysylltwch â ni heddiw a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu cymorth ar eu cyfer neu addasu yn ôl yr angen.