Fframwaith Newydd i Wersi Nofio Ysgol Byw’n Iach

Gwynedd Council

Mae Byw’n Iach yn falch o fod yn defnyddio fframwaith Nofio Ysgol newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Nofio Cymru!

Mae dysgu sut i nofio yn sgil hanfodol i bob plentyn, a gwersi nofio ysgol yw’r unig le mae llawer o blant yn cael y cyfle i ddatblygu’r sgil. Targed y fframwaith newydd yw cadarnhau bod gan bob plentyn ysgol ddealltwriaeth sylfaenol o nofio a diogelwch dŵr. Mae’r fframwaith yn cefnogi meini prawf asesu’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mi fydd yn gosod targedau i’r disgyblion i’w pasio cyn iddynt orffen Cyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 6).

Bydd yr 11 lefel o asesu o dan y fframwaith newydd yn creu profiad deniadol, hwylus ond phwrpasol i ddisgyblion, yn rhoi sgiliau a phrofiadau i’r disgyblion sydd yn helpu iddynt greu perthynas positif gyda’r dŵr. Wrth greu amgylchedd hwylus, ble mae’r profiad ei hun yn bwysicach na’r gweithgaredd, y gobaith yw bod disgyblion yn teimlo yn ddiogel yn ac o amgylch y dŵr, yn rhoi’r hyder iddynt ac yn siapio ei pherthynas gydag nofio. I wneud hyn, mi fydd athrawon yn cael ei annog i ddefnyddio gemau, themâu a sefyllfaoedd amrywiol i greu’r gwersi diddorol a chofiadwy i’r disgyblion.

Mae’r lefelau asesu i’w gweld isod:

  • Nofio Ysgol Dyfarniad Cychwynnol
  • Nofio Ysgol Dyfarniad Darganfod
  • Nofio Ysgol 1-8
  • Nofio Ysgol Dyfarniad Aur

Mi fydd ffocws yr asesiad ar bob lefel, ar ddisgyblion yn cyflawni sgiliau a strociau a fydd yn eu gwneud yn ddiogel mewn dŵr ac o’u gwmpas yn hytrach na chanolbwyntio ar dechneg a chanlyniadau. Bydd gwersi ar bob lefel yn dilyn strwythur tebyg, gyda’r gwahaniaeth yn y gweithgareddau a themâu. Mi fydd y strwythur yma yn caniatáu i wersi blant fod yn actif am y wers i gyd, gyda’r rhan bwysig yn y fframwaith newydd lle mae hi’n ddisgwyliedig i blant fod yn egnïol yn gorfforol am o leiaf 80% y wers.

Yn y flwyddyn Academaidd olaf 2022-23 fe wnaeth 72% o blant Gwynedd lwyddo yn y prawf cwricwlwm cenedlaethol ein bwriad yw gwella’r safon ag y ganran pob blwyddyn.

Yn ôl i blog
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt