Dewis Iaith:

Pethau I’w Gwneud yng Ngwynedd

Pethau I’w Gwneud yng Ngwynedd

Mae Byw’n Iach yn barod i gynnig amrywiaeth o weithgareddau i ymwelwyr yng Ngwynedd!

Tocynnau a Phrisiau:

Tocyn diwrnod i'r teulu

Chwilio am rywbeth i wled gyda’r teulu? Eleni, rydym yn cynnig tocyn diwrnod i’r teulu. Perffaith ar gyfer y teulu i gyd, mae’r tocyn yma yn gymwys i 2 oedolyn, a 4 o blant hyd at 16 oed. Yn y tocyn mae mynediad i byllau nofio Byw’n Iach, tenis bwrdd, badminton, sboncen a tenis.

Mae’r tocyn yma ar gael ym mhob derbynfa.

Ei chost yw £14.90 i aelodau / £20.00 i di aelodau


Tocyn diwrnod a tocyn wythnos

Rydym hefyd yn cynnig aelodaeth gynhwysol wythnos o hyd (7 diwrnod) am £25.30, ogystal a tocyn diwrnod am £11.50. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae hyn yn darparu mynediad i’n hystod eang o gyfleusterau.

  • Nofio Cyhoeddus
  • Ystafelloedd Ffitrwydd
  • Dosbarthiadau ffitrwydd
  • Gwersi Nofio Oedolion
  • Cyrtiau chwaraeon raced ar unrhyw nifer o achlysuron, ar draws ein holl safleoedd yng Ngwynedd.
  • Anwythiad am ddim

 

Gweithgareddau i bawb :

Gwyliau Ysgol

Dyma lu o weithgareddau sydd gan ganolfannau Byw’n Iach dros y gwyliau ysgol. Dyma rhaglen Haf o Hwyl sy’n gyfuniad o weithgareddau am ddim a rhai gyda ffi ar gael yn ein canolfannau ar draws Gwynedd.

  • Chwarae Meddal 0 – 5 oed
  • Sesiynau Chwarae i blant gyda anghenion arbennig
  • Camp Chwaraeon 8 – 11 oed
  • Camp Chwaraeon Bach 5 – 7 oed
  • Sesiynau Pasbort Ffitrwydd 11 – 15 oed
  • Mynediad i ddosbarthiadau ffitrwydd y prif raglen i blant 11 – 18 oed
  • Chwarae Allan
  • Nofio Am Ddim 0 – 16 oed
  • Sesiynau Inflatables a Fflôt
  • Cyrsiau Nofio Dwys wythnosol
  • Gwersi Nofio Swigod 0 – 3 oed
  • Campau Gymnasteg
  • Gweithgareddau Plant Blynyddoedd Ysgol 6,7,8
  • Sesiynau Haf o Hwyl i Pobl Ifanc

Dyma linc i archebu ar lein (bydd angen cyfrif Byw’n Iach. Os nad oes gennych gyfrif, cysylltwch â cyswllt@bywniach.cymru):

Archebwch ar lein


Beics Trydan

Mae gan Byw’n Iach feics trydan i chi eu hurio hyd at 3 awr / neu i gael sesiynau tywys. Mae’r beics ar gael yn y canolfannau canlynol yn ystod y flwyddyn

  • Byw’n Iach Bangor
  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon (safle tenis)
  • Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala

Am fwy o wybodaeth am lwybrau lleol, a lleoliadau ar lefydd i fynd ar y beics, dilynwch y linc yma: Llwybrau Beicio Gwynedd


Chwarae Allan

Rydym yn deall fod diddanu plant dros y gwyliau’n medru fod yn gostus. Dros y Gwyliau ysgol, mi fydd Byw’n Iach yn caniatáu i blant a phobl ifanc lleol defnyddio cyrtiau a chaeau tu allan yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a thu allan i sesiynau sydd wedi cael eu bwcio gan gwsmeriaid.

Dyma’r cyfleusterau fydd ar gael:

  • Cae Synthetig Plas Ffrancon
  • Caeau 5 pob ochr Bangor
  • Cae Synthetig a Chyrtiau Tenis & Pêl fasged Arfon
  • Cae Synthetig Plas Silyn
  • Cae Synthetig a Chyrtiau Tenis Dwyfor
  • Cae 5 pob ochr a Chyrtiau Tenis Glaslyn
  • MUGA Glan Wnion
  • Cae Synthetig a chyrtiau Tenis Bro Dysynni

Mae croeso i rieni a gwarchodwyr chwarae gyda’u plant a fydden ni’n cydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Heddlu i drefnu digwyddiadau o dro i dro.

Mi fydd ychydig o offer sylfaenol hefyd ar gael i fenthyg os bydd angen e.e. racedi tenis a pheli.

 

Mae pobl ifanc lleol wedi ein helpu i greu set o safonau ar gyfer y defnydd yma:

  • Parchu’r offer a’r cyfleusterau
  • Parchu’r Staff a defnyddwyr eraill
  • Dim beics neu sgwteri ar y cyrtiau/ caeau
  • Trainers yn unig
  • Dim gollwng sbwriel

Os ‘na fydd y safonau’n cael eu cynnal, mi fydd gan staff yr hawl i wahardd unigolion, neu yn y pendraw cau’r cyfleusterau. Felly mae hyn yn eich dwylo chi pobl ifanc Gwynedd!

Diolch yn fawr i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru (Cronfa PACT) am eu nawdd!

 

Cyfleusterau Gwlyb :

Cawodydd

Mae gan Byw’n Iach nifer o gyfleusterau hygyrch ac addas i bawb ar draws y sir.

Mae cawodydd ar gael mewn 7 o’n canolfannau, ac ar gael i’w defnyddio am £2.30 i aelodaeth (consesiwn £1.80), a £2.80 i rai sy’n ddi-aelod (£2.10 consesiwn).


Pyllau Nofio

Mae pyllau nofio ar gael i chi ddefnyddio yn ystod defnydd cyhoeddus, gyda llithren ddŵr yn Byw’n Iach Dwyfor a Penllyn, a cofiwch gallwch ddilyn gyda cawod am ddim yn dilyn y sesiwn yn y pwll.

I weld sesiynau nofio sydd ar gael, ewch i amserlen eich canolfan lleol: Canolfannau

Os ydych yn ymwelydd rheolaidd o fewn yr ardal, mae ein cerdyn Byw’n Iach Blynyddol ar gael i’w brynu am £25.30 (£19.00 i 60 + / 16-24 oed / pobl anabl; ac yn rhad ac am ddim i rai dan 16 oed). Gallwch ddefnyddio’r aelodaeth yma am 12 mis. Bydd hyn yn darparu mynediad i’n system archebu o fewn y ganolfannau, ar lein ac ar ap Byw’n Iach, a hefyd yn cynnig pris gostyngedig i chi ar bob ymweliad â’r ganolfan am 12 mis.

Mae’r holl wybodaeth isod ar gael ym mhob un o’n 12 canolfannau ar draws Gwynedd. Dilynwch y linc yma am unrhyw wybodaeth gyswllt ein canolfannau: Cyswllt gyda ni!