Llwyddiant Llewyrchus Lleu

Gwynedd Council

Yn ddiweddar mae Canolfan Byw’n Iach Arfon, Caernarfon wedi croesawu aelod newydd! Mae Lleu Owen sydd yn 4 mlwydd oed ac wedi dechrau gwersi Gymnasteg yn y ganolfan ar ôl iddo drio nifer o weithgareddau gwahanol ar ôl ysgol. Rydym yn falch o ddweud bod Lleu wedi dod o hyd i’r hyn mae’n ei fwynhau! Mae o wedi bod yn mynychu ein sesiynau Gymnasteg wythnosol ers dechrau mis Medi eleni.

Er mai dim ond 4 mlwydd oed yw Lleu, mae’n cael hi’n anodd ymdopi gyda’i emosiynau weithiau, ac yn colli hyder ar adegau. Mae rhieni Lleu yn ceisio ei gefnogi drwy reoli ei emosiynau ac yn chwilio am weithgareddau gall ei fwynhau gyda phlant eraill.

Mae rhieni Lleu wedi dod i ddysgu am nifer o ffyrdd gwahanol i gefnogi Lleu gan gynnwys siarad gyda thrwy ddefnyddio eu dwylo, sef techneg Makaton. Dyma ffordd hollol wahanol o gyfathrebu heb ddefnyddio tôn llais, ac mae gwahaniaeth mawr yn ymateb Lleu.

Yn ogystal, mae gan Lleu gardiau ar sut i gyfathrebu drwy ddefnyddio symbolau a.y.y.b. Mae’r cardiau yma yn galluogi fo i gyfathrebu beth mae eisiau ei wneud a beth mae eisiau ei ddweud.

Cyn i Lleu dechrau yn y sesiynau, trefnodd ein hyfforddwr, David Morris cyfle i gael sgwrs gyda Lleu a’i deulu er mwyn paratoi ar gyfer y sesiynau cyntaf. Roedd rhieni Lleu yn medru cynnig syniadau o ran sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda Lleu a’u hannog i gymryd rhan. Derbyniodd David set o’r cardiau cyfathrebu a chyngor o ran sut i’w ddefnyddio gyda Lleu o fewn y gwersi.

Dysgodd David ei fod yn bwysig i Lleu cael ei annog a’i gadw ar lwybr clir drwy ei wersi gymnasteg, drwy ei atgoffa o beth a gwneud. Mae’n bwysig iddo deimlo ei fod yn rhan o’r grŵp a sicrhau fod o ddim yn teimlo ei fod yn sefyll allan.

Cafodd Lleu sesiwn cyntaf wych yn y ganolfan ac roedd yn edrych ymlaen yn fawr iawn ar gael dod nôl i wers. Roedd wedi iddo sôn am y gwersi trwy’r wythnos. Dangosodd beth roedd wedi dysgu i’w rieni adref.

Dywedodd Mam Lleu, “Roedd yr hyfforddwyr wedi dangos gymaint o amynedd efo fo, yr ymdrech ychwanegol i arafu fo ayb, hyd yn oed pan oedd yn mynd yn boenus ac yn hyper tua’r diwedd. Mi wnaethon nhw helpu fo i gadw ffocws. Mae’n deimlad o ryddhad i weld o’n gwneud mor dda!”

Yn y gwersi gymnasteg mae’r hyfforddwr wedi dod i adnabod Lleu yn dda ac wrth eu boddau yn ei weld yn datblygu yn y gwersi. Mae rhieni Lleu wedi cychwyn ystyried pa weithgareddau chwaraeon eraill fydda Lleu yn medru mwynhau yn y ganolfan e.e. gwersi nofio.

Mae Byw’n Iach wedi dysgu llawer trwy ein perthynas efo Lleu a’i deulu. Trwy gyfathrebu’n glir a gwneud addasiadau bach, maen bosib sicrhau fod yna gyfleoedd i bawb o fewn y gymuned gwella eu hiechyd a lles a datblygu sgiliau newydd. Mae Byw’n Iach am groesawu pawb i ddefnyddio ein cyfleusterau a gwasanaethau, ac yn barod iawn i drafod ar lefel unigol os oes cyfle i ni addasu ar gyfer anghenion unigolion. Ar gyfer mwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r tîm drwy e-bost cyswllt@bywniach.cymru.

Yn ôl i blog
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt