Dewis Iaith:

Cwestiynau Cyffredin

Ga i ymuno â Byw'n Iach ar-lein?

Wrth gwrs! Dilynwch y fideo isod i ddilyn canllawiau ar sut i ymuno â Byw’n Iach ar-lein

Oes!:

Mae’n bosibl ymuno â’n cynlluniau Debyd Uniongyrchol ar-lein.

Gallwch ymuno â’r cynlluniau canlynol ar-lein

Cliciwch ar y pecynnau uchod am ragor o wybodaeth.

I ymuno â’r cynllun, dilynwch y ddolen hon: Ymunwch Ar-lein

Sut i Archebu a Thalu Ar-lein?

I archebu lle ar gyfer eich plentyn/plant dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: Cyfarwyddiadau

Sut i archebu a thalu am fy sesiynau ar-lein yn gyffredinol: Cyfarwyddiadau

Sut i ddefnyddio Ap Byw'n Iach?

Ap Byw’n Iach yw canolbwynt ein holl wybodaeth, diweddariadau, amserlenni, digwyddiadau a hysbysiadau.

Gwybodaeth Cwsmer:

  • Mae aelodau sydd â cyfrif ar-lein a chyfrinair yn defnyddio’r un manylion mewngofnodi ar gyfer yr ap.
  • Aelodau sydd heb ddefnyddio eu cyfrif – anfonwch eich Rhif Aelodaeth Byw’n Iach neu Rhif Cerdyn Byw’n Iach (GN…), eich Llawn Enw a Cyfeiriad Llawn i’ch canolfan leol neu yma: Cysylltu
  • Mae’r ap ar gael i bob cwsmer adolygu sesiynau a derbyn newyddion (ond mae angen aelodaeth / cyfrif i allu archebu)

Cliciwch ar y llun isod i lawrlwytho’r ap ar eich ffôn

Sut i ddefnyddio’r app? Ewch draw i dudalen YouTube Byw’n Iach i wylio fideos a sut i ddefnyddio’r ap: Byw’n Iach YouTube

Sut i lawrlwytho’r app? https://download-mobilepro.myfitapp.com/a/27SY?p=4

Ydw i'n cael defnyddio pyllau nofio Byw'n Iach?

Mae ein pwll ar agor i bawb yn ôl amserlen y ganolfan.

Polisi mynediad nofio i blant o dan 8 oed eich canolfan leol: Darllenwch yma

 Mae’n bosibl i rai nad ydynt yn aelodau, ac i ddefnyddwyr achlysurol ddefnyddio’r pwll nofio; mae’r canlynol ar gael:

  • Tocyn Nofio Teulu: 2 + 2 *yn cynnwys chwaraeon raced

  • Talu wrth fynd: Tocyn nofio unigol

Nid oes rhaid archebu ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus. Cyfeiriwch at ein gwefan am y ffioedd a’r taliadau presennol: Prisiau

Beth yw rheolau Byw'n Iach ar dillad yn y pyllau nofio

Mae Byw’n Iach yn ymdrechu i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teimlo’n gyfforddus yn ein pyllau nofio drwy gael cawod cyn nofio a gwisgo dillad nofio glân. Rydym yn awyddus i gwsmeriaid deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio ein pyllau ac ymfalchïo mewn bod yn ddarparwr hamdden i bawb. Gweler isod ein canllaw dillad nofio i helpu i’w wneud yn gliriach.

Mae’n rhaid i ddillad nofio fod yn addas ac yn briodol bob amser. Dyma rheolau ein pyllau nofio o ran dillad addas: Darllenwch yma

Beth yw cynllun Passbort Ffitrwydd Byw'n Iach?

Ein cynllun passbort yw cynllun sydd yn rhoi mynediad i bobl ifanc 11-15 oed i’r ystafelloedd ffitrwydd, darllenwch fwy am y cynllun yma: PASBORT FFITRWYDD 11 – 15 OED

Ydw i'n gallu defnyddio cyfleusterau Byw'n Iach heb fod yn aelod?

Mae ein telerau ac amodau yn nodi y gall unigolion nad ydynt yn aelodau archebu hyd at 10 diwrnod ymlaen llaw, wyneb yn wyneb neu drwy ffonio a thalu’r ffi priodol i’r rhai nad ydynt yn aelodau. Gallwch ffonio i archebu a thalu drwy gysylltu â’ch canolfan leol.

Mae aelodaeth dros dro yn cynnig pris gostyngol ar weithgareddau.

Tocyn Wythnosol: Yn rhoi mynediad i’n pyllau, campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a llysiau chwaraeon raced unrhyw nifer o weithiau, ar draws ein holl safleoedd yng Ngwynedd am 7 diwrnod yn olynol. Cynigir cyflwyniad byr i’r peiriannau yn y gampfa/ystafell pwysau fel rhan o’r aelodaeth wythnosol, neu os ydych yn hyderus, gallwch lofnodi datganiad atebolrwydd.

Tocyn Diwrnod: Yn rhoi mynediad i’n pyllau, campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a llysiau chwaraeon raced unrhyw nifer o weithiau, ar draws ein holl safleoedd yng Ngwynedd am 1 diwrnod yn unig.

Gellir wneud hyn ar-lein: Ymunwch

Gellir gwneud archebion ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gydag aelodaeth neu bas dilys. Gallwch hefyd alw heibio.

Oes posib rhewi fy aelodaeth?

Yn ôl ein telerau ac amodau, mae angen rhybudd o 1 mis arnom i addasu aelodaeth.

Efallai y gallwch rewi eich aelodaeth dros dro am hyd at 6 mis. Dim ond am y rhesymau canlynol:

  • Salwch difrifol

  • Anafiad difrifol

  • Beichiogrwydd

  • Diswyddiad

Efallai y bydd angen dogfennau ategol i gefnogi’r cais. Cysylltwch am ffurflen yn eich canolfan lleol.

Pa ddisgownt sydd ar gael?

Rydym yn cynnig y gostyngiadau canlynol:

Gellir ymuno ar pecynau disgownt yma ar-lein: Ymunwch