Ystafell Ffitrwydd a Pwysau
Rydym yn cynnig rhai o’r cyfleusterau gorau yn yr ardal i’ch helpu i fwynhau bywyd bywiog ac iach.
Mae’r offer yn y ganolfan yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ac mae staff cymwys a phrofiadol ar gael i gynnig cyngor i chi.
Mae gennym nifer o Beiriannau Ffitrwydd cynhwysol gyda seddi symudol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a gyda lliwiau cyferbyniol ac arwynebau cyffyrddol ar gyfer cyfranogwyr â nam ar eu golwg.
Rhaid i chi gael sesiwn sefydlu yn yr Ystafell Ffitrwydd – am ragor o wybodaeth cysylltwch â derbynfa eich canolfan leol.
Biocircuit
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod gennym y Biocircuit cyntaf ar gael yng Nghymru! Mae’r dechnoleg ffitrwydd arloesol hon yn cynnig profiad ymarfer corff personol, effeithlon ac amserol, gan eich helpu i gyrraedd eich nodau yn gyflymach. Dewch i brofi dyfodol hyfforddiant heddiw!
Dyma sut mae’r cynllun yn gweithio: Mwy o wybodaeth yma
Er mwyn dechrau defnyddio’r Biocircuit, lawrlwythwch ap Technogym, sganio’r cod QR isod, a dewch draw i Fangor!