Dewis Iaith:
Mae Byw’n Iach Bro Dysynni yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae gennym ystod eang o ddosbarthiadau ar gyfer pob gallu a lefel ffitrwydd. Rydym yn cynnig gweithgareddau pwll nofio yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd yn ein stiwdio.
Mae ein dosbarthiadau Beicio Dan Do yn boblogaidd iawn ac yn sicrhau y gallwch fwynhau’r gweithgaredd yn ystod y misoedd oerach neu helpu i chi cadw yn heini ac iach.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.
High Street,
Tywyn,
Gwynedd
LL36 9AD
+
Dydd Sul 13/09/26: Bydd yr ystafell newid merched ar agor ond ni fydd dŵr ar gael. Gellir defnyddio’r cawodydd yr ystafell iechyd, ond efallai bydd amseroedd aros hir.
Dydd Llun 14/09/26 + Dydd Mawrth 15/09/26: Bydd yr ystafell newid merched ar gau trwy’r dydd. Gellir defnyddio’r cawodydd yn yr ystafell iechyd, ond efallai bydd amseroedd aros hir. Rydym yn annog cwsmeriaid i gyrraedd yn barod i nofio. Byddwn yn caniatáu i gwsmeriaid mynd â’i bagiau wrth ochr y pwll gan na fydd loceri ar gael.
Rydym yn gobeithio bydd yr ystafell newid yn barod i’w defnyddio erbyn 16:00 ar gyfer gwersi nofio ar Ddydd Mawrth 15/09/26.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.