Mae Byw’n Iach Bro Dysynni yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae gennym ystod eang o ddosbarthiadau ar gyfer pob gallu a lefel ffitrwydd. Rydym yn cynnig gweithgareddau pwll nofio yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd yn ein stiwdio.
Mae ein dosbarthiadau Beicio Dan Do yn boblogaidd iawn ac yn sicrhau y gallwch fwynhau’r gweithgaredd yn ystod y misoedd oerach neu helpu i chi cadw yn heini ac iach.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.
High Street,
Tywyn,
Gwynedd
LL36 9AD
+
Yn dilyn cau pwll nofio Bro Dysynni dros dro oherwydd problemau gyda’r system trin aer, rydym yn aros i’r offer penodol gyrraedd er mwyn datrys y broblem cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd mae’r pwll dal ar gau, felly ni fydd gwersi nofio ymlaen tan y byddwn yn rhoi’r diweddariad arall i chi.
Bydd y ganolfan yn sicrhau bod 42 o wersi’n cael eu darparu yn ystod y flwyddyn, fel y nodir yn y cytundeb. Byddwn yn parhau i’ch hysbysu wrth i bethau symud ymlaen, a byddwn yn cadarnhau dyddiad cwblhau cyn gynted â phosibl.
Mae eich amynedd, dealltwriaeth a theyrngarwch yn golygu llawer i Byw’n Iach, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ar hyn o bryd, mae’r cyrtiau tennis allan o ddefnydd i gwsmeriaid
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.