Mae Byw’n Iach Glaslyn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae nofio yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei gynnig, gyda Phwll Nofio 25 metr a phwll bach. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym hefyd yn cynnig dewis gwych o ddosbarthiadau ffitrwydd, pob un wedi’i gynllunio i’ch helpu i gadw’n heini ac iach. Mae gennym ni rywbeth ar gyfer pob gallu, o’r rhai sydd eisiau gweithgaredd dwys, i’r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Yn yr adeilad mae gennym lyfrgell a chaffi yn gweini bwyd ffres a choffi gwych bob dydd.
Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.
Stryd y Llan,
Porthmadog,
Gwynedd
LL49 9HW
+
O dydd Mawrth 03/02/2026 mi fydd nofio cyhoeddus yn gorffen am 20:00 ar pob dydd Mawrth oherwydd archeb breifat.
Mi fydd yr pwll bach ar gau trwy dydd Iau 05/02/2026. Mae hyn yn golygu mi fydd gwersi ton 1 a 2 nos Iau yn cael ei canslo.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.