Dewis Iaith:

Polisi Canslo Aelodaeth & Chyfnod Oeri

Polisi Canslo Aelodaeth & Chyfnod Oeri – Byw’n Iach

Cyfnod Oeri (14 Diwrnod Cyntaf)

Mae gennych hawl i ganslo eich aelodaeth o fewn 14 diwrnod o ymuno.

Os byddwch yn canslo o fewn y cyfnod hwn ac heb ddefnyddio’r cyfleusterau, byddwch yn derbyn ad-daliad llawn. Rhaid i chi ymweld â’r ganolfan y gwnaethoch gofrestru ynddi gyda’r cerdyn gwnaethoch dalu gyda.

Os byddwch yn canslo yn ystod y cyfnod hwn ar ôl defnyddio’r cyfleusterau, byddwn yn didynnu swm pro-rata i adlewyrchu’r gwasanaethau a ddefnyddiwyd.

I ganslo, gallwch:

  • Siarad ag aelod o staff yn y dderbynfa
  • Cysylltu â ni drwy e-bost: cyswllt@bywniach.cymru
  • Byddwn yn prosesu ad-daliadau o fewn 14 diwrnod i dderbyn eich cais canslo.

Ar Ôl Y Cyfnod Oeri

Ar ôl y 14 diwrnod cychwynnol, mae eich aelodaeth yn ddarostyngedig i’r cyfnod lleiaf cytunedig o 6 mis. Ar ôl y cyfnod cychwynnol, mae’n ofynnol i chi roi 1 mis o rybudd ysgrifenedig os ydych yn dymuno canslo. Ni allwn ganslo aelodaeth dros y ffôn

Gallwch ganslo drwy:

  • Lythyr
  • E-bost – debyduniongyrchol@bywnich.cymru
  • Llenwi ffurflen ganslo (ar gael ym mhob canolfan)

Mae ffioedd aelodaeth yn daladwy yn ystod y cyfnod rhybudd. Gallwch barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau drwy gydol y cyfnod hwn.

Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y gofynnir am gadarnhad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid yw canslo eich Debyd Uniongyrchol yn canslo eich contract, a byddwch yn cael anfoneb am unrhyw fisoedd sy’n ddyledus.

Amgylchiadau Eithriadol

Gallwn ganiatáu canslo’n gynnar heb gosb mewn rhai amgylchiadau, megis:

  • Rhesymau meddygol (gyda thystiolaeth ategol)
  • Symud tŷ i leoliad tu hwnt i bellter rhesymol

Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail unigol.

Ein Hymrwymiad i Degwch

Ein nod yw gwneud y broses o ymuno a gadael Byw’n Iach mor syml â phosibl.

Ni fyddwn yn:

  • Gosod rhwystrau canslo anghyfiawn.
  • Gorfodi telerau contract annheg.
  • Gwrthod ad-daliadau dilys yn ystod y cyfnod oeri.