Croeso i dudalen enwebiadau Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2025! Dyma’ch cyfle i gydnabod ac enwebu unigolion, timau a chlybiau sydd wedi rhagori ym myd chwaraeon dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym am ddathlu’r llwyddiannau ysbrydoledig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Os oes angen unrhyw gymorth neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Byw’n Iach ar 07795012706 neu SeremoniWobrwyo@bywniach.cymru.
Canllawiau:
Mae’r gwobrau yn cydnabod llwyddiant o 01/01/25
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 30/09/25
Gall unigolyn gael ei enwebu i fwy na un Categori – ond bydd angen cyflwyno cais gwahanol i bob categori
Bydd penderfyniad y panel yn derfynol – mae hawl gan y panel i wneud ymholiadau pellach am gais.
Gwybodaeth Categoriau
Athletwr Hyn Y Flwyddyn – Mae’r categori yma i unrhyw un sydd wedi serennu ar lefel cenedlaethol neu uwch.
Athletwr Hyn Y Flwyddyn (dim elit) – Mae’r categori yma i unrhyw un sydd yn serennu o fewn clwb/tîm ar lefel lleol neu ranbarthol.
Athletwraig Hyn Y Flwyddyn – Mae’r categori yma i unrhyw un sydd wedi serennu ar lefel cenedlaethol neu uwch.
Athletwraig Hyn Y Flwyddyn (dim elit) – Mae y categori yma i unrhyw un sydd yn serennu o fewn clwb/tim ar lefel lleol neu rhanbarthol.
Athletwr/Athletwraig Iau Y Flwyddyn – Mae y categori yma i unrhyw un o dan 18 oed sydd wedi serennu ym myd chwaraeon
Tîm Y Flwyddyn – Categori yn agored i unrhyw dîm – o unrhyw oedran sydd wedi profi llwyddiant arbennig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Clwb Y Flwyddyn – Dylech gynnwys gwybodaeth am y clwb cyfan ac nid dim ond un Tîm o fewn y Clwb – dylid nodi nid yn unig llwyddiannau ar y cae chwarae ond yr hyn mae’r Clwb yn ei wneud i ddenu aelodau newydd, hyfforddi neu gymhwyso gwirfoddolwyr, codi arian, datblygu ei offer neu gyfleusterau, lleihau carbon ayyb
Gwirfoddolwr Y Flwyddyn – Mae’n bwysig rhestru’r holl waith/oriau mae’r gwirfoddolwr yn ei wneud gan gynnwys effaith y gwaith ar y clwb/gymuned leol
Hyfforddwr Y Flwyddyn – Dylid nodi bod Hyfforddwr yn gallu bod yn llwyddiannus heb ennill rhywbeth ac felly mae’n bwysig nodi’r holl bethau mae’r hyfforddwr wedi ei gyflawni dros y flwyddyn e.e. datblygu chwaraewyr, datblygiad personol, mentora hyfforddwyr newydd, sefydlu trefniadau newydd, gwaith hyfforddi arloesol ayyb.
Darpariaeth Cynhwysol y flwyddyn – Agored i glwb/mudiad/sefydliad sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i greu cyfleoedd cynhwysol, yn cynnwys darpariaeth i bobl anabl.
Digwyddiad Chwaraeon Y Flwyddyn – Mae’r categori yma i gydnabod digwyddiad chwaraeon neu weithgareddau corfforol nodedig sydd wedi dangos effaith a threfniadaeth, wedi cynnig profiad cofiadwy, a’r gallu i ysbrydoli, ymgysylltu ac uno pobl.
Ffurflen Enwebu
Rheoli Cwcis
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a / neu gael mynediad at wybodaeth am ddyfeisiau. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn caniatáu inni brosesu data fel ymddygiad pori neu IDs unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu'n ôl effeithio'n andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Swyddogaethol
Always active
Mae'r storio neu'r mynediad technegol yn gwbl angenrheidiol at y diben cyfreithlon o alluogi defnyddio gwasanaeth penodol y mae'r tanysgrifiwr neu'r defnyddiwr yn gofyn amdano'n benodol, neu at yr unig ddiben o drosglwyddo cyfathrebiad dros rwydwaith cyfathrebu electronig.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Ystadegau
Y storio neu'r mynediad technegol a ddefnyddir at ddibenion ystadegol yn unig.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marchnata
Mae'n ofynnol i'r storfa neu'r mynediad technegol greu proffiliau defnyddwyr i anfon hysbysebu, neu i olrhain y defnyddiwr ar wefan neu ar draws sawl gwefan at ddibenion marchnata tebyg.