Dewis Iaith:

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd

 

 

 

 

 

 

Canllawiau

  1. Mae’r gwobrau yn cydnabod llwyddiant o 01/01/24
  2. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 30/09/24
  3. Gall unigolyn gael ei enwebu i fwy na un Categori – ond bydd angen cyflwyno cais gwahanol i bob categori
  4. Bydd rhestr fer yn cael ei lunio a bydd pawb ar y rhestr fer yn derbyn tlws ar y noson
  5. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol – mae hawl gan y panel gwneud ymholiadau pellach am gais

 

Cliciwch ar yr categori hoffwch enwebu:

Athletwr / Athletwraig hyn y flwyddyn




  • Mae’r categori yma i unrhyw un sydd wedi serennu ar lefel cenedlaethol neu uwch.



















Athletwr / Athletwraig hyn y flwyddyn (dim elit)




  • Mae y categori yma i unrhyw un sydd yn serennu o fewn clwb/tim ar lefel lleol neu rhanbarthol.



















Athletwr / Athletwraig iau y flwyddyn




  • Mae y categori yma i unrhyw un o dan 18 oed sydd wedi serennu ym myd chwaraeon



















Tim y flwyddyn




  • Catergori yn agored i unrhyw tîm - o unrhyw oedran sydd wedi profi llwyddiant arbennig yn ystod y flwyddyn diwethaf.



















Clwb y flwyddyn




  • Dylech cynnwys gwybodaeth am y clwb cyfan ac nid dim ond un Tim o fewn y Clwb – dylid nodi nid yn unig llwyddiannau ar y cae chwarae ond yr hyn mae’r Clwb yn ei wneud i ddenu aelodau newydd, hyfforddi neu cymhwyso gwirfoddolwyr, codi arian, datblygu ei offer neu cyfleusterau, lleihau carbon ayb



















Gwirfoddolwr y flwyddyn




  • Mae’n bwysig rhestru’r holl waith/oriau mae y gwirfoddolwr yn ei wneud gan gynnwys effaith y gwaith ar y clwb/gymuned leol



















Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn




  • Mae’n bwysig rhestru’r holl waith/oriau mae y gwirfoddolwr yn ei wneud gan gynnwys effaith y gwaith ar y clwb/gymuned leol



















Hyfforddwr y flwyddyn




  • Dylid nodi bod Hyfforddwr yn gallu bod yn lwyddiannus heb ennill rhywbeth ac felly mae’n bwysig nodi yr holl bethau mae’r hyfforddwr wedi ei gyflawni dros y flwyddyn e.e. datblygu chwaraewyr, datblygiad personol, mentora hyfforddwyr newydd, sefydlu trefniadau newydd, gwaith hyfforddi arloesol ayb.



















Llwyddiant personol




  • Mae’r wobr yma yn cael ei ddyfarnu i unigolyn sydd wedi dod dros anawsterau sylweddol i gymryd rhan neu gystadlu mewn chwaraeon.



















Darpariaeth cynhwysol y flwyddyn




  • Agored i glwb/mudiad/sefydliad sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i greu cyfleoedd cynhwysol, yn cynnwys darpariaeth i bobl anabl.



















Cyflogwr Actif y flwyddyn




  • Agored i gyflogwr sydd wedi cymryd camau sylweddol i fuddsoddi yn iechyd a llesiant eu staff e.e. trwy trefnu gweithgareddau, trefnu cynigion arbennig, creu amser a gofod ar gyfer cadw’n heini ayb.



















 

Os bydd angen cysylltu â rhywun o Byw’n Iach –  07795012706 / SeremoniWobrwyo@bywniach.cymru

Am wybodaeth o’n Hysbysiad Preifatrwydd: Yma