Dewis Iaith:
Ar Ddydd Gwener 22/05/26, buodd Byw’n Iach Dwyfor yn cynnal digwyddiad Agoriad Swyddogol yr Ystafell Ffitrwydd. Dyma gyfle i aelodau o’r gymuned ddod at ei gilydd gyda’r timoedd oedd yn gyfrifol am gwblhau’r project i ddysgu fwy am y cyfleuster newydd.

Roedd digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, yn llawn cyffro ynglŷn â’r offer hygyrch a chynhwysol newydd y mae’r cyfleuster yn ei ddarparu. Ein nod yw darparu lle gwych i aelodau cymuned Pwllheli, o bob oed, cefndir a gallu, hyfforddi a thyfu eu cariad at ffitrwydd gyda’i gilydd.
Beth mae’r cyfleuster newydd yn cynnig?
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn sydd ar gael yn yr ystafell ffitrwydd newydd yma: Ystafell Ffitrwydd Byw’n Iach Dwyfor
Diolch yn fawr iawn i’n partneriaid yn ystod prosiect, ni fyddai wedi bod yn bosib heboch chi!
Barod i roi cyfle ar yr ystafell ffitrwydd newydd? Ymunwch ar-lein heddiw!